Tsieina ac America yn cytuno i dorri tariffau ar ei gilydd
Mae Tsieina a'r Unol Daleithiau wedi cytuno i dorri tariffau ar ei gilydd am gyfnod o 90 diwrnod.
Dywedodd Ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau, Scott Bessent, y bydd y ddwy wlad yn gostwng tariffau o 115%.
Mae'n golygu y bydd cyfradd tariffau'r Unol Daleithiau ar fewnforion Tsieineaidd yn disgyn i 30%.
Bydd Tsieina yn gostwng ei chyfradd tariffau ar fewnforion o'r Unol Daleithiau i 10%.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr Unol Daleithiau a Tsieina y bydd y toriadau yn dechrau ar 14 Mai.
Daw’r cytundeb newydd ar ôl i’r ddwy wlad gynnal trafodaethau masnach yn Genefa dros y penwythnos.
Yn flaenorol roedd y ddwy wlad wedi cyflwyno tariffau o fwy na 100% ar gyfer ei gilydd.
Roedd Donald Trump wedi cyflwyno cyfradd tariffau o 145% ar y rhan fwyaf o fewnforion Tsieineaidd.
Fe wnaeth Tsieina daro'n ôl gyda chyfradd o 125% ar fewnforion o'r Unol Daleithiau.