'Hebddo fyddai Nessa ddim yn bodoli': Ruth Jones yn rhoi teyrnged i'w chyd-awdur wrth ennill Bafta
Mae Ruth Jones wedi ennill Bafta Prydeinig yng nghategori'r actores orau mewn comedi.
Wrth dderbyn y wobr fe ddiolchodd yr awdures ac actores Gavin and Stacey i’w chyd ysgrifennwr, James Corden.
Dywedodd ei bod wedi "rhannu'r siwrne anhygoel yma am yr 17 mlynedd diweddaf a hebddo fe fyddai Nessa Shanessa Jenkins ddim yn bodoli”.
Mr Loverman a’r ddrama Mr Bates vs the Post Office oedd yr enillwyr mawr yn ystod y gwobrau Bafta nos Sul.
Fe ddaeth Mr Bates i’r brig yn y categori drama orau ac fe gafodd ITV wobr arbennig er mwyn cydnabod effaith y ddrama.
Roedd y gyfres yn olrhain hanes sgandal y Swyddfa Bost.
Dywedodd Cynhyrchydd y gyfres Patrick Spence: “Cafodd y stori yma mond yr effaith y cafodd oherwydd bod y bobl wnaeth wylio wedi codi ar eu traed a mynnu mewn cynddaredd bod yna weithredu yn digwydd.”
Ychwanegodd Rheolwr Gyfarwyddwr y ddrama, Kevin Lygo, bod angen i'r llywodraeth "frysio" i dalu iawndal i'r dioddefwyr. Dywedodd hefyd ei bod hi'n bwysig bod corfforaethau teledu yn parhau i gynhyrchu dramâu sydd yn "dwyn pobl i gyfrif".
Cafodd y ddrama Mr Loverman ddwy o’r brif wobr actio sef yr actor gorau a’r actor cynorthwyol gorau.
Mae Mr Loverman yn sôn am ddyn sydd yn cael carwriaeth tu allan i’w briodas gyda dyn arall.
Marisa Abela gafodd y wobr am yr actores orau ar gyfer ei rôl yn y gyfres Industry.
Ymhlith yr enillwyr eraill oedd Danny Dyer yn y categori actor gorau mewn comedi, Blue Lights ar gyfer y gyfres ddrama orau ac Eastenders ar gyfer yr opera sebon gorau.