Mewnfudo: '50,000 yn llai o fisas i weithwyr sgiliau is'
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper wedi ymrwymo i gyflwyno 50,000 yn llai o fisas i weithwyr 'sgiliau is' gan gynnwys gweithwyr gofal o wledydd tramor.
Dywedodd Ms Cooper fore dydd Sul ei fod yn amser i “ddod i ben â recriwtio gweithwyr gofal o dramor”.
Dywedodd Ms Cooper y bydd y rheolau am fisas gweithwyr gofal yn cael eu newid er mwyn “atal” ei ddefnyddio “i recriwtio o dramor”.
Dywedodd: “Fe fyddwn ni’n gadael iddyn nhw barhau i ddod ac i aros ac i weithio wedyn.
“Rydym yn gwneud rhai newidiadau, yn enwedig o ran safonau a chydymffurfiaeth prifysgolion, oherwydd, unwaith eto, rydym wedi cael problemau lle nad oes gan rai prifysgolion safonau priodol yn eu lle.
“Maen nhw wedi recriwtio pobl i ddod fel myfyrwyr rhyngwladol sydd wedyn heb gwblhau eu cyrsiau, sydd naill ai wedi aros yn rhy hir neu broblemau eraill gyda chydymffurfio â’r system.”
Ychwanegodd Ms Cooper y bydd yn gosod cynllun ar gyfer "gostyngiad sylweddol mewn mudo net", ond dywedodd nad oedd am osod targed.
Dywedodd ysgrifennydd cartref yr wrthblaid Chris Philp fod y ffigwr o 50,000 yn “rhy fach” a bod angen “mesurau llymach”.