Cwmnïau parcio 'ddim eisiau rhoi tocynnau parcio'
Dydy cwmnïau parcio preifat "ddim eisiau rhoi tocynnau parcio" yn ôl ffigwr blaenllaw yn y diwydiant.
Daw hyn wedi i o gwmpas 41,000 o docynnau gael eu cyflwyno yn ddyddiol yn y DU.
Dywedodd Will Hurley, Prif Weithredwr International Parking Community (IPC) fod gweithredwyr eisiau i yrwyr barcio "lle maen nhw eisiau, pryd maen nhw eisiau" heb dorri unrhyw reolau.
Mae busnesau parcio preifat wedi cael eu cyhuddo o ddefnyddio arwyddion camarweiniol a chymysglyd a ffioedd afresymol.
Dywedodd Mr Hurley: "Mae unrhyw fusnes yn bodoli er mwyn gwneud arian.
"Ond y realiti ydy, mae'r mwyafrif helaeth o bres sy'n dod i mewn yn y diwydiant parcio yn dod o bobl yn talu am barcio."
Mae cwmnïau preifat yn cosbi perchnogion cerbydau am dorri rheolau mewn meysydd parcio preifat, gan gynnwys canolfannau siopa a chyfleusterau hamdden.
Maen nhw'n rhoi hysbysiadau tâl parcio pan maen nhw'n honni fod rhywun wedi torri rheolau perchennog y tir, er enghraifft am beidio nodi eu rhif cerbyd yn gywir, am aros yn rhy hir neu am beidio parcio o fewn bae.
Gall bob tocyn fod hyd at £100, gyda gostyngiad isafswm o 40% os yw'n cael ei dalu o fewn 14 diwrnod.
'Ddim eisiau rhoi dirwyon'
Dangosodd y cyfrifon diweddaraf ar gyfer ParkingEye, cwmni parcio preifat mwyaf y DU, ei fod wedi gwneud elw cyn treth o £16.1 miliwn yn 2023.
Ychwanegodd Mr Hurley: "Os ydych chi'n meddwl am y peth, jest peidiwch â pharcio mewn unrhyw ffordd a all arwain at ddirwy parcio.
"Dydy gweithredwyr parcio ddim eisiau rhoi dirwyon."
Yn y chwe mis hyd at ddiwedd Medi y llynedd, fe wnaeth cwmnïau rheoli meysydd parcio wneud 7.2 miliwn o geisiadau i'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am gofnodion perchennog cerbyd, sydd yn cael eu defnyddio i anfon hysbysiad tâl parcio.
Dywedodd Pennaeth Polisi cymdeithas foduro yr RAC, Simon Williams: "Os nad yw cwmnïau preifat wir eisiau rhoi tocynnau, dylen nhw wneud eu harwyddion yn gliriach ac yn haws i'w deall.
"Mae osgoi tâl yn unrhyw beth ond hawdd mewn rhai lleoliadau."