
Banksy Port Talbot yn destun sioe theatr newydd
Banksy Port Talbot yn destun sioe theatr newydd
Mae sioe theatr newydd sy’n trafod effaith murlun Banksy ar dref Port Talbot yn teithio o gwmpas Cymru.
Agorodd Port Talbot Gotta Banksy ddydd Gwener 2 Mai, ac mae'n trafod themâu fel cymuned, gwydnwch a phŵer y celfyddydau gyda’r dramodydd Paul Jenkins yn dweud bod y neges yn un bwysig ar hyn o bryd.
"Mae llawer o bobl yn y dref yn teimlo fel nad oes ganddyn nhw lais,” meddai Paul.
“Mae penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud sy'n effeithio arnyn nhw, ond dydyn nhw ddim yn teimlo bod ganddyn nhw lawer o bŵer yn hyn, fel pan adawodd darn Banksy y dref, ond hefyd cauad gwaith dur Port Talbot."
Gwnaeth y cyd-awduron Paul Jenkins a Tracy Harris dros 100 awr o gyfweliadau gyda phobl leol dros chwe blynedd i greu’r sgript.
Yn ystod y sioe, mae cyfweliadau drwy glustffonau'r actorion yn cael eu chwarae.
“Mae'n gymuned dosbarth gweithiol gref, ac rydym am iddyn nhw ddweud eu stori yn eu geiriau eu hunain,” dywedodd Paul Jenkins.
Cafodd y gwaith celf 'Season's Greetings' ei baentio ar wal garej gweithiwr dur yn ardal Taibach gan yr arlunydd stryd anhysbys ym mis Rhagfyr 2018.

Cafodd y gwaith ei brynu gan John Brandler – sy'n casglu darnau Banksy – yn 2019, ond cytunodd y masnachwr celf i gadw'r murlun yn yr ardal am dair blynedd, cyn iddo symud o Gymru i Loegr yn 2022.
Cafodd dwy o actorion y sioe, Jalisa Phoenix-Roberts a Holly Carpenter, eu geni a'u magu ym Mhort Talbot. Mae nhw’n credu bod llawer o bethau wedi newid yn y dref ers i’r gwaith Banksy ymddangos.

“Mae yna lot fawr o beintio â chwistrell neu spraypainting yn digwydd yn yr ardal a mae fe'n rili neis i weld. Mae'r lle yn lliwgar iawn, a hefyd mae yna le i bobl just cael y siawns i wneud pethau fel drama ac actio, ac mae pobl yn gallu cael lle i ffeindio pethau eraill maen nhw'n mwynhau gwneud, nid dim ond dy swydd 9 tan 5” dywedodd Jalisa.
"Nid pawb wrth gwrs, ond mae yna le i wneud hwnna sy'n lyfli i weld.”
Dywedodd Holly: “Y peth anhygoel am Bort Talbot yw’r lefel o egni a chreadigrwydd sy'n mynd ymlaen ar hyn o bryd. Mae pobl gyda’r siawns i wneud pethau creadigol, a dydyn nhw ddim yn gorfod cuddio’r ffaith bod nhw’n bobl greadigol,”.
“Mae yna gyfle i bobl ddod allan a gwneud pethau creadigol yn y dref, mae e'n braf iawn i’w weld.”
Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yng Nghaerdydd yn Theatr y Sherman cyn mynd i'r Plaza ym Mhort Talbot, yn ogystal ag Abertawe, Wrecsam ac Aberdaugleddau.