Cricieth: Ymddygiad gwrth-gymdeithasol 'wedi gwaethygu yn sgil y tywydd poeth'
Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol yng Nghricieth yng Ngwynedd wedi gwaethygu yn sgil y tywydd poeth diweddar yn ôl un cynghorydd lleol.
Mae pobl ifanc yn Nghricieth wedi bod yn difrodi toiledau cyhoeddus, dwyn o siopau a chysgu dros nos mewn meysydd parcio yn ôl Cynghorydd y dref, Siân Williams.
Yn ystod cyfarfod Cyngor Gwynedd ar 1 Mai, dywedodd y Cynghorydd Williams tra bod ymddygiad gwael yn broblem mewn rhannau eraill o'r wlad, roedd yn "bryder mawr" yn ei hardal.
Ym mis Awst y llynedd, fe gafodd Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus tair blynedd ei gyflwyno gan y cyngor yng Nghricieth, Pwllheli a Chaernarfon.
Mae hyn yn rhoi rhagor o bwerau i Heddlu'r Gogledd i fynd i'r afael ag ymddygiad yn yr ardaloedd.
'Cefnogi'r genhedlaeth nesaf'
Dywedodd y Cynghorydd Williams fod y tywydd cynnes diweddar wedi gwneud pethau'n waeth, ac mae bellach yn galw ar y cyngor i "gynnal trafodaethau" gyda'r adran addysg ac asiantaethau cefnogi i ystyried ffyrdd o fynd i'r afael â'r problemau.
"Ein cyfrifoldeb ni ydi o fel cymdeithas i fagu a chefnogi'r genhedlaeth nesaf i fod yn ddinasyddion cyfrifol sydd gan obaith a gwerthoedd yn eu hunain, ac yn eu pentrefi, trefi a'u hardaloedd," meddai.
"Nid yw Cricieth yn unigryw, mae yna ardaloedd eraill yng Ngwynedd yn profi heriau tebyg, a siroedd eraill ar draws Cymru yn wynebu heriau.
"Mae'n bwysig i ni fynd at wraidd y broblem."
'Lleiafrif bach'
Ychwanegodd y Cynghorydd Williams mai "lleiafrif bach" o bobl ifanc oedd yn rhan o'r ymddygiad hyn, ac maent wedi cael eu gwahardd o'r ysgol.
Dywedodd fod y gosb yn "aneffeithiol" oherwydd nad ydyn nhw wedi "derbyn y gefnogaeth na'r arweiniad drwy'r ysgolion neu wasanaethau eraill yn y cyfnod yma."
Mae wedi galw am "broses o gynnig arweiniad a chefnogaeth" yn hytrach na gwaharddiad.
Wrth ymateb, dywedodd aelod cabinet Cyngor Gwynedd dros addysg, y Cynghorydd Dewi Jones, ei fod yn "cytuno'n llwyr" ac yn hapus i drafod y mater ymhellach.
Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol ymysg pobl ifanc yn "fater sydd angen sylw gofalus a phwysig ar frys." meddai.
Ond ychwanegodd ei fod yn teimlo bod angen "ymateb ar draws sawl adran", gan gynnwys gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol, a'r gymuned ehangach.