Newyddion S4C

Pêl-droed: Penodi Alan Sheehan yn brif hyfforddwr Abertawe

Alan Sheehan

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi penodi Alan Sheehan fel prif hyfforddwr wedi cyfnod llwyddiannus fel rheolwr dros dro.

Cyhoeddodd y clwb ddydd Mercher bod Sheehan wedi arwyddo cytundeb am dair blynedd gyda'r Elyrch.

Cafodd ei benodi'n rheolwr dros dro wedi i Luke Williams gael ei ddiswyddo yng nghanol mis Chwefror.

Ers hynny mae e wedi ennill 23 pwynt allan o 36 posib wrth i'r clwb godi o safle 17 yn y Bencampwriaeth i safle 11 ar hyn o bryd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw mae'r Elyrch wedi ennill pum gêm yn olynol am y tro cyntaf ers 2007, pan enillodd y clwb ddyrchafiad i'r Bencampwriaeth.

'Y dyn cywir'

Dywedodd Cyfarwyddwr Pêl-droed Abertawe, Richard Montague ei fod yn "hyderus" mai Alan Sheehan yw'r prif hyfforddwr cywir i arwain y clwb dros y blynyddoedd nesaf.

"Mae Alan wedi creu argraff arnom ers iddo gael ei benodi'n rheolwr dros dro am yr eildro," meddai.

"Roedd yn bwysig ein bod ni'n cynnal proses fanwl cyn penodi ein prif hyfforddwr newydd.

"Roedd rhaid i ni sicrhau mai'r penderfyniad hwn oedd yr un cywir ac rydym yn hapus iawn ac yn hyderus ein bod ni wedi dewis y dyn cywir i arwain ein clwb i'r lefel nesaf."

Wedi gyrfa am 20 mlynedd gyda nifer o glybiau, ymunodd Sheehan ag Abertawe fel hyfforddwr cynorthwyol i Michael Duff yn 2023.

Eleni oedd ei ail gyfnod fel rheolwr dros dro gyda'r clwb.

Fe fydd yn brif hyfforddwr yr Elyrch am y tro cyntaf ar gyfer eu gêm olaf y tymor hwn yn erbyn Oxford United ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.