Dyn o Norwy a thri o Gasnewydd yn colli apêl wedi 'gweithredoedd erchyll' addasu cyrff
Rhybudd: Gallai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.
Mae grŵp o chwech o ddynion, gan gynnwys tri o Gymru, a fu’n rhan o gynllwyn i dorri darnau o gyrff dioddefwyr wedi coll eu hapêl yn erbyn dedfrydau sylweddol o garchar.
Cafodd y dynion eu dedfrydu yn llys yr Old Bailey fis Mai yn llynedd ar ôl cyfaddef i gynllwynio i gyflawni niwed corfforol difrifol.
Roedd yr achos yn ymwneud â 13 o ddioddefwyr, yr ieuengaf ohonynt yn 16 oed.
Cafodd Janus Atkin, 38, o Gasnewydd, oedd wedi bod yn cwblhau cwrs milfeddygol, ei garcharu am 12 mlynedd, tra chafodd David Carruthers 61, ac Ashley Williams, 32, hefyd o Gasnewydd eu carcharu am 11 mlynedd a phedair blynedd a chwe mis.
Clywodd y llys bod y dynion yn rhan o gynllwyn i dorri organnau rhywiol, gan gynnwys sbaddu dynion a chynnal gweithredoedd “erchyll” eraill i addasu cyrff pobl ar raddfa ddigynsail.
Clywodd y llys mai Marius Gustavson o Norwy oedd arweinydd y grŵp, ac iddo unwaith goginio ceilliau dynol er mwyn eu bwyta mewn salad.
Roedd ei bidlen hefyd wedi cael ei thorri â chyllell cegin.
Cafodd ei garcharu am 22 mlynedd y llynedd.
Fe heriodd e a'r diffynyddion eraill eu dedfryd yn y Llys Apêl fis Chwefror.
Roedd cyfreithwyr y diffynyddion wedi dadlau nad oedd y ffaith fod y dioddefwyr wedi rhoi canitád i gael eu cam-drin wedi bod yn ystyriaeth wrth benderfynu ar hyd eu dedfryd.
Ond fore Mercher, gwrthododd yr Arglwydd Ustus William Davis, Mr Ustus Griffiths a'r Barnwr Simon Drew KC y chwe apêl.
Yn eu dyfarniad, maen nhw'n nodi fod hwn yn achos "hynod o anarferol"
Dywedodd yr Arglwydd Ustus William Davis: “Roedd yr addasiadau a wnaed i'r dedfrydau wrth asesu'r amgylchiadau anarferol yn rhesymol.
"Y bwriad oedd rhoi neges i unrhyw un a fyddai'n ystyried cymryd rhan mewn dulliau peryglus o'r fath yn ymwneud â newid rhannau o'r corff ."
Ychwanegodd fod y barnwr wedi gweithredu'n gywir drwy ddefnyddio canllaw er mwyn gosod dedfryd briodol, ac yna i gymryd i ystyriaeth yr elfen o ganiatád gan y dioddefwyr.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Cymorth S4C.
Prif Lun: Marius Gustavson