Cynyddu cynnyrch ffrwythau a llysiau yn y DU 'yn hwb i elw ffermydd'
Byddai cynyddu cynhyrchiant ffrwythau a llysiau yn y DU yn hwb i elw ffermydd yn ôl adroddiad newydd.
Mae astudiaeth gan elusen Green Alliance yn rhybuddio y byddai angen cynyddu faint o ffrwythau a llysiau y mae pobl yn ei fwyta 86% er mwyn cyrraedd y cyngor iechyd i fwyta pump y diwrnod.
Ar hyn o bryd, dim ond traean o boblogaeth y DU sy'n bwyta'r swm yma.
Mae'r adroddiad yn awgrymu y byddai hyn yn gallu cefnogi hyd at 23,520 o swyddi ychwanegol yn ogystal â chynyddu incwm ffermydd o 3% ar draws y wlad.
Fe wnaeth ymchwilwyr awgrymu y byddai angen 113,622 hectar o dir er mwyn cynyddu cynhyrchiant garddwriaethol 86%.
Dywedodd yr adroddiad fod blaenoriaethu y diwydiant yma yn gwneud synnwyr, o ystyried y 'pwysau ar dir i gyfarfod anghenion diogelwch bwyd, hinsawdd, ynni a natur.'
'O ddifrif'
Dywedodd pennaeth amgylchedd naturiol Green Alliance Lydia Collas: "Mae angen i ni fwyta mwy o ffrwythau a llysiau i wella ein hiechyd.
“Ar hyn o bryd rydym yn mewnforio mwy na hanner ein hafalau pan mae gennym bopeth sydd ei angen arnom i fwyta afalau Prydeinig drwy gydol y flwyddyn.
"Os ydy'r Llywodraeth o ddifrif am wella iechyd pobl a sicrhau fod gan ffermwyr fywoliaeth gynaliadwy, mae angen strategaeth arddwriaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra): "Mae ein hymrwymiad i ffermwyr a thyfwyr yn parhau yn gadarn.
"Fe fydd ein strategaeth fwyd draws-Lywodraethol yn sicrhau y gall ein system fwyd barhau i fwydo’r genedl, gwireddu ei photensial ar gyfer twf economaidd ac amddiffyn y blaned."