Newyddion S4C

Euro 2025: S4C i ddarlledu pob gêm Cymru yn fyw

Iwerddon v Cymru - Hannah Cain

Fe fydd pob un o gemau Cymru yn Euro 2025 i'w gweld yn fyw ar S4C.

Ym mis Gorffennaf fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn teithio i'r Swistir i chwarae yn eu pencampwriaeth fawr gyntaf. 

Mae Cymru yn chwarae yng ngrŵp D yn erbyn Yr Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr sef pencampwyr 2021. 

Bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 5 Gorffennaf am 17:00, yna Ffrainc ar 9 Gorffennaf am 20:00, cyn wynebu Lloegr, ar 13 Gorffennaf am 20:00.

Fe fydd y gemau ar gael i'w gwylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Sioned Dafydd fydd yn cyflwyno, Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones yn dadansoddi gyda Dylan Ebenezer a Nic Parry yn cwblhau tîm S4C.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans: “Rwy’n falch iawn bod S4C yn medru dangos holl gemau Cymru ym mhencampwriaeth UEFA EURO y Menywod eleni.

“Ry’ ni wedi gweld twf aruthrol yn y dilyniant i gemau menywod dros y tymhorau diwethaf yn yr Adran Premier ar S4C. Mae’n wych y bydd cefnogwyr nawr yn medru dilyn gemau’r tîm cenedlaethol yn yr Ewros yn y Gymraeg ar S4C, yr unig sianel lle fedrwch wylio pob un o gemau Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae CBDC yn hynod falch y bydd S4C yn darlledu gemau Cymru ym mhencampwriaeth UEFA EURO Menywod 2025 dros yr haf.

“Mae ymrwymiad y sianel i bêl-droed Cymru yn sicrhau bod y gamp yn cael ei wylio a’i gefnogi trwy gyfrwng y Gymraeg wrth i garfan Rhian Wilkinson edrych i ysbrydoli’r wlad wrth greu hanes yn eu hymddangosiad cyntaf mewn pencampwriaeth ryngwladol.”

Yn ogystal â’r tair gêm ym mhencampwriaeth yr Ewros, mae S4C hefyd yn darlledu uchafbwyntiau o gemau menywod Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd gyda’r gemau nesaf yn erbyn Denmarc ar 30 Mai a’r Eidal ar 3 Mehefin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.