Newyddion S4C

Sir Gâr: Dyn 63 oed wedi marw ar fferm yn ardal Llanpumsaint

Llanpumsaint

Mae dyn 63 oed wedi marw ar fferm yn ardal Llanpumsaint, Sir Gâr.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i fferm yn Llanpumsaint fore Llun, 21 Ebrill.

Mewn datganiad dywedodd y llu: "Roedd swyddogion wedi cael eu galw i ffarm yn ardal Llanpumsaint fore Llun, 21 Ebrill wedi adroddiadau bod dyn 63 oed wedi marw tra'n gweithio ar yr eiddo.

"Mae'r crwner a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.