Dau yn y llys mewn cyswllt â marwolaeth dynes o Gaerdydd
Mae dyn a menyw wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd mewn cysylltiad â marwolaeth menyw 37 oed o Gaerdydd.
Daeth cadarnhad ddydd Sadwrn fod corff Paria Veisi wedi ei ddarganfod mewn tŷ yn ardal Penylan yn y brifddinas.
Cafodd ei gweld ddiwethaf ar 12 Ebrill, pan adawodd ei gwaith yn ardal Treganna.
Mae Alireza Askari, 41, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus o gorff marw, ac ymosod ar berson gan achosi niwed corfforol.
Mewn gwrandawiad ddydd Mawrth, siaradodd i gadarnhau ei enw, dyddiad geni a'i gyfeiriad.
Ymddangosodd Maryam Delavary, 48 oed o Lundain, yn y llys hefyd wedi ei chyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon a gweddus o gorff marw ac o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r ddau wedi eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ar 16 Mai.
Cafodd 6 Hydref ei nodi gan y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, fel dyddiad ar gyfer yr achos sy'n debygol o barhau am bedair wythnos.