
Perchennog cwmni 'ddim yn gymwys' i arwain taith badlfyrddio a laddodd bedwar
Doedd perchennog cwmni “ddim yn gymwys o bell ffordd” i arwain taith badlfyrddio lle bu farw pedwar o bobl ar Afon Cleddau yn Hwlffordd, Sir Benfro, yn 2021, yn ôl yr erlyniad yn Llys y Goron Abertawe.
Cafodd hynny ei nodi ar ddiwrnod cyntaf gwrandawiad dedfrydu Nerys Lloyd o Aberafan sydd eisoes wedi pledio'n euog i ddynladdiad pedwar o bobl.
Bu farw tri padl-fyrddwyr, Paul O’Dwyer, 42, o Bort Talbot, Morgan Rogers, 24, o Ferthyr Tudful a Nicola Wheatley, 40 o Bontarddulais ar yr afon yn Hwlffordd, ar 30 Hydref, 2021.
Bu farw Andrea Powell, 41, o Ben-y-bont ar Ogwr yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Nerys Lloyd, sy'n 39 oed, oedd perchennog ac unig gyfarwyddwr Salty Dog Co Ltd, a drefnodd y daith badlfyrddio ar ddiwrnod y marwolaethau.
Yn gyn swyddog yr heddlu, roedd Lloyd yn gweithredu fel hyfforddwr y diwrnod hwnnw, ochr yn ochr â Mr O’Dwyer, a gafodd ei ladd.
Fe blediodd Lloyd yn euog i ddynladdiad ar sail esgeulustod difrifol yn Llys y Goron Abertawe ym mis Mawrth eleni.
Yn yr achos dedfrydu ddydd Mawrth, clywodd y llys nad oedd Ms Lloyd na Mr O’Dwyer yn gymwys "o gwbl" i arwain taith o’r fath.
“Er eu bod nhw wedi cwblhau cwrs yn gynharach yn y flwyddyn, roedd hyn yn gwrs sylfaen, lefel mynediad,” dywedodd Mark Watson KC.
Roedd gan yr ardal benodol yna o’r afon “botensial gwirioneddol” i fod yn beryglus, ychwanegodd.
Dywedodd bod y grŵp o badl-fyrddwyr wedi gadael am eu taith ychydig cyn 9.00 y bore, a hynny er gwaethaf cyfnod o law trwm yn gynharach a rhybuddion am dywydd garw mewn grym.
Doedd neb yn y grŵp yn ymwybodol bod yna gored ('weir') – sydd yn debyg i argae bach – yn yr afon. Clywodd y llys nad oedd y criw yn gwybod chwaith sut i badlfyrddio ar hyd y gored.
Yn sgil glaw trwm ynghynt, roedd tua “dwy dunnell o ddŵr” yn mynd trwy un metr o'r gored bob eiliad.
Llwyddodd Mr O’Dwyer i adael yr afon yn wreiddiol ond fe aeth yn ôl i mewn, er mwyn ceisio achub y padl-fyrddwyr eraill. Cafodd ei lusgo dros y gored, eglurodd Mark Watson KC.
Mae’r achos yn parhau.
Prif Lun: Nerys Lloyd mewn gwrandawiad blaenorol