Mae plismon o Sir Fôn wedi gwadu achosi niwed corfforol difrifol i fachen 17 oed y tu allan i glwb nos Cube ym Mangor yn 2023.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug i'r Cwnstabl Ellis Thomas 25 oed o'r Gaerwen, Ynys Môn benglinio Harley Murphy tra yn ei arestio gan arwain at rwygo un o'i geilliau.
Bu'n rhaid i Mr Murphy gael llawdriniaeth i dynnu hanner caill yn ddiweddarch.
Wrth agor yr achos, dywedodd Elen Owen ar ran yr erlyniad bod y llanc, sydd bellach yn 19 oed yn teimlo'n feddw adeg yr ymosodiad honedig yn ystod oriau mân y bore, fis Ionawr 2023.
Dywedodd Harley Murphy bod ei ffrind a oedd wedi cael niwed mewn damawain car ychydig cyn hynny, wedi cael ei wthio i lawr grisiau gan fownsars a bod hynny wedi ei wneud yn "eithaf crac."
Arweiniodd hynny at ddadlau a chafodd yr heddlu eu galw.
Dywedodd yr erlynydd: " Yn ôl Harley, doedd un o'r swyddogion ddim yn hynod o gyfeillgar,"
Ychwanegodd fod Harley Murphy yn cydnabod iddo alw enwau ar y plismon, rhywbeth mae'n cyfaddef na ddylai fod wedi ei ddweud, meddai, Elen Owen.
Ond dywedodd wrth y rheithgor nad Mr Murphy oedd o flaen ei well: “Yr hyn ddigwyddodd i Harley ac a oedd y diffynnydd yn gyfrifol am achosi niwed difrifol iawn i'r dyn ifanc," sydd o dan sylw, meddai.
Clywodd y llys i Ellis Thomas ddweud wrth y llanc ei fod yn ei arestio, gan geisio ei ostwng i'r llawr.
Ond clywodd y rheithgor nad oedd y llanc yn credu iddo wneud unrhyw beth o'i le, cyn iddo gael ei benglinio.
Yn ôl yr erlyniad, cwynodd y bachgen fod ganddo boen wrth iddo gael ei roi yng nghar yr heddlu.
Honnir i Ellis Thomas ddweud wrtho yn Gymraeg: " Ti'n fy ngalw i'n "speccy" ac yn fy ngwthio, dyna be rwyt ti yn ei gael."
Y diwrnod canlynol, ar 30 Ionawr, fe aeth y llanc i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Ar 31 Ionawr, cafodd lawdriniaeth. Roedd wedi cael niwed i un o'i geilliau, a oedd yn anaf anarferol, yn ôl yr erlyniad.
Cwynodd mam Mr Murphy weth Heddlu Gogledd Cymru, a chafodd yr achos ei gyfeirio i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Mae'r gwrandawiad gerbron y Barnwr Simon Mills yn parhau.