Dynes o Gaerdydd yn gwadu stelcian teulu Madeleine McCann
Mae dynes o Gaerau yng Nghaerdydd wedi gwadu cyhuddiad o stelcian teulu Madeleine McCann.
Fe ymddangosodd Karen Spragg, 60, o flaen Llys y Goron Caerlŷr gyda Julia Wandel, 23 o Lubin yn ne-orllewin Gwlad Pwyl.
Roedd Karen Spragg wedi ei chyhuddo o wneud galwadau, anfon llythyrau a mynd at gyfeiriad cartref Kate a Gerry McCann.
Roedd Julia Wandel wedi ei chyhuddo o wneud galwadau, gadael negeseuon, ac anfon llythyr a neges WhatsApp at Mr a Mrs McCann.
Honnodd Julia Wandel yn y gorffennol mai hi oedd y ferch fach a aeth ar goll ym Mhortiwgal ym mis Mai 2007.
Cafodd ei chadw yn y ddalfa ac fe ryddhawyd Karen Spragg ar fechnïaeth amodol.
Bydd y ddwy yn ymddangos yn yr un llys ar gyfer achos ar 2 Hydref.