Disgwyl penodi Delyth Evans yn Gadeirydd S4C yn ffurfiol
Mae disgwyl i Delyth Evans gael ei phenodi’n Gadeirydd S4C yn ffurfiol wrth iddi ymddangos gerbron Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn San Steffan ddydd Mercher.
Cafodd y cyhoeddiad ei bod wedi ei phenodi’n ddarpar Gadeirydd newydd S4C ei wneud gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ddydd Mercher diwethaf.
Mae disgwyl i'w phenodiad gael ei gwblhau’n ffurfiol wedi iddi ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ Portcullis am 14.30 brynhawn ddydd Mercher.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal yn y Gymraeg a Saesneg.
Mae disgwyl i Ms Evans drafod ei phrofiadau a’i sgiliau gan bwysleisio ei gallu i gyflawni'r rôl.
Disgwylir hefyd i Aelodau Seneddol holi Ms Evans am ei chynlluniau i arwain S4C.
Mae’n debygol y bydd hi’n wynebu cwestiynau am heriau mwyaf y sianel, gan gynnwys sicrhau cyllid hirdymor.
Yn enedigol o Gaerdydd, aeth Delyth Evans i Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gyda chefndir mewn newyddiaduraeth, fe dreuliodd gyfnod yn ysgrifennu areithiau gwleidyddol cyn symud i fyd gwleidyddiaeth ei hun yn ddiweddarach.
Roedd yn aelod o’r Cynulliad am dair blynedd rhwng 2000 a 2003, gan gynrychioli rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Gwasanaethodd fel Dirprwy Weinidog dros y Gymraeg, Materion Gwledig a’r Amgylchedd yn ystod y cyfnod hwn.
Cyfnod cythryblus
Gyda Delyth Evans yn cael ei ffafrio ar gyfer y rôl, byddai'n olynu'r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb a gafodd ei benodi'n Gadeirydd dros dro ar y sianel fis Mawrth 2024.
Dywedodd Mr Bebb ar y pryd nad oedd eisiau bod yn gadeirydd yn llawn amser pan fyddai ei gyfnod yn dod i ben ym mis Mawrth 2025.
Cafodd Mr Bebb ei benodi i'r rôl wedi i Rhodri Williams gyhoeddi rai misoedd ynghynt nad oedd am gael ei ystyried ar gyfer ail gyfnod yn Gadeirydd S4C.
Daeth ymadawiad Rhodri Williams wedi cyfnod cythryblus i’r sianel, yn dilyn honiadau o fwlio.
Collodd Prif Weithredwr S4C, Sian Doyle ei swydd gyda’r darlledwr wedi i adroddiad gan gwmni cyfreithiol Capital Law gael ei gyhoeddi fis Rhagfyr 2023.
Roedd y ddogfen yn nodi fod tystiolaeth staff yn amlygu ymddygiad honedig y Prif Weithredwr "fel un a gafodd yr effaith fwyaf arwyddocaol negyddol ar yr amgylchedd waith ac awyrgylch o fewn S4C".
Dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "cydnabod na derbyn" yr honiadau a wnaed yn yr adroddiad, gan alw ar Lywodraeth y DU i ymchwilio i arweinyddiaeth S4C.
Dechreuodd Geraint Evans yn ei swydd fel Prif Weithredwr S4C fis Ionawr eleni, ar ôl ymuno â S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes.
Yn ddiweddarach, daeth yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi'r Sianel.
Wrth iddo ddechrau yn ei swydd fel Prif Weithredwr, dywedodd bod y "seilie wedi eu rhoi yn eu lle" er mwyn sicrhau na fydd y darlledwr yn mynd drwy gyfnod tebyg eto.