Teyrngedau i hanesydd 'eithriadol o arbennig' o Ddeiniolen a fu farw yn sydyn
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i hanesydd "eithriadol o arbennig" o Ddeiniolen yng Ngwynedd a fu farw yn sydyn.
Bu farw Gareth Roberts, 62, yn Ysbyty Gwynedd gydag aelodau o'i deulu wrth ei ochr ddydd Gwener diwethaf ar ôl argyfwng meddygol wrth fynd am dro ym gyda'i fab Gwyn ym Mhenisarwaun ar y dydd Iau.
Fe gafodd ei dderbyn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan yn 2023 i gydnabod ei "egni a'i frwdfrydedd yn ddiarhebol, ac mae'n ysbrydoli pawb â'i sgyrsiau, teithiau a'i arddangosfeydd".
Bu'n gweithio dros les pobl ifanc Menter Fachwen, ac fe groedd archif leol o enwau ponciau Chwarel Dinorwig, hanesion am gymeriadau a diwylliant bro, a bu'n arwain teithiau cerdded yn yr ardal.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville-Roberts: "Pob cydymdeimlad â theulu Gareth Roberts, Deinolen ar eu profedigaeth.
"Tlotach ydym oll o’i goll."
'Diolch'
Mewn teyrnged iddo, dywedodd Pwyllgor Pentref Deiniolen: "Roedd Gareth yn ŵr eithriadol o arbennig ac yn uchel ei barch yn y gymuned. Roedd yn adnabod pob twll a chornel o’i gynefin – a thu hwnt.
"Drwy ei waith ymchwil manwl, ei wybodaeth helaeth, a’r straeon diddorol a rannai yn ystod nosweithiau agored a theithiau cerdded, fe roddodd foddhad a dysg i nifer fawr ohonom.
"Diolchwn iddo o waelod calon am rannu ei wybodaeth, ac am gofnodi ffeithiau a straeon a fydd yn parhau’n waddol gwerthfawr i genedlaethau’r dyfodol. Mae ein dyled iddo yn enfawr."
Dywedodd yr Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor y bydd yn "ffrind y bydd yn ei golli yn fawr, ond hefyd am ei waith ar hanes lleol".
"Roedd yn arwr di-glod wrth ddathlu hanes Iddewig Cymru," meddai.
"Cafodd fy mhlant eu llusgo o gwmpas ar ei deithiau o amgylch Bangor, Llandudno a hyd yn oed RAF Llandwrog ymhlith llawer o lefydd eraill. Dysgon ni i gyd llawer ac fe helpodd i wella fy Nghymraeg."
Diolchodd ei nith Karen Lewis ar ran y teulu am y negeseuon o gefnogaeth.
"Fel teulu rydym eisiau diolch i bawb a helpodd yn y sefyllfa - i'r cyhoedd a roddodd CPR i Gareth yn syth, yr Ambiwlans Awyr, staff yr adran argyfwng a'r heddlu am eu holl ymdrechion," meddai.