Arolwg yn awgrymu y byddai Reform yn geffyl blaen mewn etholiad cyffredinol
Mae arolwg newydd yn awgrymu y byddai Reform UK yn ennill y nifer mwyaf o seddi pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yn fuan, ond ni fyddai gan unrhyw blaid ddigon o seddi i hawlio grym.
Fe allai Llafur golli 246 o Aelodau Seneddol, gan gynnwys 10 o weinidogion y Cabinet, gyda cholledion mawr yng nghymoedd de Cymru a'r Alban, yn ôl arolwg gan More in Common.
Yn seiliedig ar arolygon barn o fwy na 16,000 o bobl, mae’r data’n awgrymu hollt posibl yn y bleidlais a allai ail-lunio’r map etholiadol, gyda chefnogaeth Llafur yn hollti i’r chwith a’r dde.
Byddai Reform yn ennill 180 o seddi ar gyfran o 23.7% o’r bleidlais, gyda’r Torïaid a Llafur wedi’u clymu ar 165 o seddi yr un ar 24.3% a 24.5% yn y drefn honno, yn ôl yr arolwg.
Byddai Plaid Cymru'n cipio pum sedd.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn Pat McFadden a’r Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband ymhlith y rhai a allai golli i ymgeiswyr o blaid Nigel Farage, meddai More in Common.
Mae arolygon a gynhaliwyd flynyddoedd i ffwrdd o etholiad cyffredinol yn annhebygol o gynrychioli unrhyw beth yn agos at y canlyniad terfynol oherwydd nid oes unrhyw ffordd o ragweld beth fydd y materion pwysicaf ar feddyliau pleidleiswyr ar ddiwrnod y pleidleisio.
Mae disgwyl i’r etholiad cyffredinol nesaf gael ei gynnal erbyn mis Awst 2029 fan bellaf.