Iwerddon: Michael D Higgins yn gosod torch i goffau Gwrthryfel y Pasg am y tro olaf
Mae Arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, wedi gosod torch yn ystod coffâd blynyddol Gwrthryfel y Pasg 1916 yn Nulyn.
Dyma'r tro olaf y bydd Mr Higgins yn arwain y digwyddiad fel yr arlywydd presennol.
Gosododd Mr Higgins dorch i goffau'r rhai fu farw yn y digwyddiad yn 1916, 109 mlynedd ers y gwrthryfel arfog yn erbyn rheolaeth Prydain yn Iwerddon.
Dechreuodd y seremoni cyn hanner dydd wrth i dyrfa fawr ymgasglu ar brif stryd Dulyn, Stryd O’Connell, wrth i’r orymdaith ddechrau ffurfio.
Gostyngwyd y faner drilliw genedlaethol uwchben y Swyddfa Bost Gyffredino, y GPO, l i hanner mast am hanner dydd ar gyfer y seremoni cyn gwasanaeth gweddi.
Gosodwyd y dorch gan Mr Higgins cyn munud o dawelwch.
Cymerodd y Lluoedd Amddiffyn, gan gynnwys band pres, band pibau a chynrychiolwyr o’r Fyddin, y Corfflu Awyr a’r Llynges ran yn y seremoni.
Y GPO yw’r lleoliad enwocaf sy’n gysylltiedig â’r gwrthryfel ar ôl cael ei ddynodi’n bencadlys y Llywodraeth Dros Dro, ac roedd y seremoni ddydd Sul hefyd yn cynnwys darlleniad o Gyhoeddiad Gweriniaeth Iwerddon gan y Capten Conor Gibbins o Barna, Go Galway.
Mynychwyd y digwyddiad hefyd gan y Taoiseach Micheal Martin, y Tanaiste Simon Harris a Phennaeth Staff y Lluoedd Amddiffyn.
Llun: PA