Arestio dau ddyn yn ne Cymru mewn cysylltiad â marwolaeth dynes ar gwrs golff
Mae'r heddlu wedi arestio dau ddyn yn ne Cymru mewn cysylltiad â marwolaeth dynes ar gwrs golff yng nghanolbarth Lloegr.
Cafodd y ddau ddyn, 36 oed a 26 oed o Coseley, eu harestio dydd Gwener gan swyddogion ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Bu farw Suzanne Cherry, 62 oed o Aldridge, yn yr ysbyty ddydd Mawrth ar ôl cael ei tharo gan gerbyd oedd yn cael ei ddilyn gan yr heddlu.
Cafodd ei tharo gan fan ar gwrs golff Aston Wood am 10.25 ar ddydd Gwener 11 Ebrill.
Arestiodd swyddogion o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr dri dyn ddydd Mercher 16 Ebrill mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad.
Mae un o’r dynion, dyn 41 oed o Gaerwrangon, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi’i ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Arestio
Ers hynny mae swyddogion o Sir Stafford wedi cael amser ychwanegol gan y llysoedd i holi dau ddyn arall: dyn 51 oed o Bloxwich, sydd wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, a dyn 22 oed o Dudley, sydd wedi’i arestio ar amheuaeth o ddynladdiad a chynorthwyo troseddwr.
Fe fyddan nhw’n cael eu holi’n fuan gan swyddogion o Heddlu Sir Stafford.
Fe wnaeth swyddogion o'r llu hwnnw arestio dyn arall, 34 oed, ar amheuaeth o ddynladdiad. Mae yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Roedd dau gar patrôl wedi dechrau yn dilyn y fan Nissan lwyd yn Kingstanding, Birmingham, ar ôl derbyn adroddiadau o weithgarwch amheus, yn ôl Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Rhoddodd yr heddlu y gorau i ddilyn y fan pan aeth oddi ar y ffordd ac i fyny clawdd yng Nghlwb Golff Aston Wood, cyn taro Mrs Cherry.
Teyrnged
Wrth roi teyrnged iddi ddydd Sul, dywedodd ei gŵr bod y digwyddiad yn gadael “gwagle na ellir ei lenwi” ym mywydau ei theulu a’i ffrindiau.
Dywedodd ei gŵr, na chafodd ei enwi, mewn datganiad: “Wrth fwynhau’r hyn a ddylai fod wedi bod y mwyaf diogel o un o weithgareddau niferus Suzanne, gwyliais mewn arswyd diymadferth wrth i fywyd fy ngwraig brydferth a’n dyfodol gyda’n gilydd gael ei gipio i ffwrdd mewn amrantiad.
“Roedd gan Suzanne awch anhygoel a heintus am fywyd a gyffyrddodd pawb a oedd yn ddigon ffodus i'w hadnabod.
“Roedd hi’n anhunanol, bob amser yn barod i annog gyda chariad a chefnogi’r rhai o’i chwmpas i gyflawni mwy nag yr oedden nhw eu hunain yn meddwl oedd yn bosibl."