Chwilio am ddyn sydd ar goll yn y môr rhwng Cymru ag Iwerddon
Mae ymgyrch achub ar y gweill wrth geisio dod o hyd i ddyn aeth ar goll yn y môr rhwng Cymru ag Iwerddon nos Sadwrn.
Yn ôl Gwylwyr y Glannau yn Iwerddon fe gafwyd adroddiad bod dyn wedi disgyn oddi ar fwrdd cwch am tua 22:40.
Y gred yw bod y cwch yn hwylio rhwng Brighton ac Abertawe gan hwylio heibio Falmouth.
Cafodd yr awdurdodau wybod am y digwyddiad ar ôl derbyn galwad gan ddyn arall oedd ar y cwch ar y pryd. Mae'r dyn hwnnw wedi ei ganfod yn ddiogel.
Mae Gwylwyr y Glannau o Iwerddon, bad achub o Ddwyrain Dumnore, ac awyrennau chwilio ac achub yn cymryd rhan yn yr ymgyrch achub fore dydd Sul.
Cafwyd hyd i'r cwch ger Ceann Heilbhic yn Sir Waterford.