
Lluoedd Rwsia'n dal i ymosod er eu 'cadoediad byr' medd Zelensky
Mae arlywydd Wcráin wedi dweud bod lluoedd Rwsia'n parhau i ymosod ar ei wlad, oriau'n unig ers i Vladimir Putin gyhoeddi cadoediad dros dro yn ystod penwythnos y Pasg.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn, cyhoeddodd y Kremlin eu bod yn disgwyl i luoedd Wcráin barchu'r cadoediad, fydd mewn grym tan ddydd Llun.
Ond fore dydd Sul, cyhoeddodd Volodymyr Zelensky fod ymosodiadau Rwsia'n dal i gael eu cynnal, gan gynnwys ymosodiadau gyda dronau o'r awyr ac ar y tir.
Yn ei ddatganiad, dywedodd Mr Zelensky: "Ar draws gwahanol gyfeiriadau ar y rheng flaen, bu eisoes 59 achos o shelio Rwsiaidd a phum ymosodiad gan unedau Rwsiaidd.
"Rhwng 18:00 ddoe a hanner nos heddiw, bu 387 o achosion o danseilio ac 19 o ymosodiadau gan luoedd Rwsia. Defnyddiwyd dronau gan Rwsiaid 290 o weithiau.
"Ar y cyfan, o fore’r Pasg, gallwn ddatgan bod byddin Rwsia yn ceisio creu’r argraff gyffredinol o gadoediad, tra mewn rhai ardaloedd mae'n dal i barhau ag ymdrechion ynysig i hyrwyddo a pheri colledion i Wcráin.
"Rhaid i Rwsia gydymffurfio'n llawn ag amodau'r cadoediad. Mae cynnig Wcráin i weithredu ac ymestyn y cadoediad am 30 diwrnod ar ôl hanner nos heno yn parhau i fod ar y bwrdd. Byddwn yn gweithredu yn unol â'r sefyllfa wirioneddol ar lawr gwlad."

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, cyhoeddodd y Kremlin eu bod yn disgwyl i luoedd Wcráin barchu'r cadoediad, sydd mewn grym tan ddydd Llun.
Dywedodd yr arlywydd yn ei ddatganiad: "Yn cael ei arwain gan ystyriaethau dyngarol, heddiw o 18:00 tan hanner nos o ddydd Sul i ddydd Llun, mae ochr Rwsia yn datgan cadoediad y Pasg.
"Rwy'n gorchymyn atal pob gweithred filwrol am y cyfnod hwn."
Ychwanegodd Mr Putin yn ei ddatganiad: “Ar yr un pryd, rhaid i’n milwyr fod yn barod i ymatal unrhyw darfu posibl o’r cadoediad a chamau i'n cythruddo gan y gelyn, ac unrhyw un o’i weithredoedd ymosodol."
Nid oes unrhyw arwydd hyd yma os bydd y cadoediad yn arwain at drafodaethau heddwch pellach.
Mae'r ymladd yn Wcráin wedi para am dros dair blynedd erbyn hyn, ac mae'r Kremlin dan bwysau i ymrwymo i gytundeb heddwch wedi i'r Arlywydd Donald Trump ddod i rym yn yr UDA ar ddechrau'r flwyddyn.
Ddydd Gwener fe ddywedodd Mr Trump wrth ohebwyr ei fod am weld cytundeb heddwch yn digwydd rhwng Rwsia a Wcráin "yn fuan".