Newyddion S4C

Amgueddfa yng Ngheredigion i gau ei drysau am flwyddyn

16/04/2025
Amgueddfa Ceredigion

Bydd amgueddfa yng Ngheredigion yn cau ei drysau fis nesaf am gyfnod o flwyddyn ar gyfer gwaith atgyweirio.

Bydd Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth yn cau ddydd Llun 19 Mai er mwyn cwblhau gwaith atgyweirio ar yr adeilad rhestredig Gradd II.
 
Mae disgwyl i’r amgueddfa ailagor yng ngwanwyn 2026.
 
Bydd y gwaith yn cynnwys to newydd, atgyweirio'r nenfwd ac ail-blastro waliau sydd wedi’u difrodi.
 
Bydd caffi, siop a chanolfan groeso yr amgueddfa yn parhau ar agor yn ystod y gwaith atgyweirio.
 
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ddiwylliant, bod y gwaith atgyweirio yn "hanfodol" i sicrhau dyfodol yr adeilad.
 
"Mae’n adeilad rhestredig Gradd II a bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud yn ofalus er mwyn i genedlaethau’r dyfodol fwynhau ymweld â’r creiriau, i fynychu digwyddiadau, arddangosfeydd a chyngherddau gwych," meddai.
 
"Rwy’n hyderus bydd drysau’r amgueddfa yn agor cyn gynted â phosib a bydd yna groeso cynnes unwaith eto i bawb."
 
Fe gafodd yr amgueddfa ei hagor yn 1905 fel theatr amrywiaeth ac fe gafodd ei thrawsnewid yn sinema yn 1933.
 
Fe ddaeth yn ganolfan adloniant tan iddi gau ym 1977. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.