Carcharu Americanwr am feithrin perthynas amhriodol gyda merch o Gymru
Mae Americanwr 44 oed wedi cael ei garcharu am dros saith mlynedd am feithrin perthynas amhriodol gyda merch ifanc o Gymru.
Fe wnaeth Jacob Ewing o Ogledd Carolina orfodi merch ifanc o ranbarth Gwent i'w wylio'n cyflawni gweithredoedd rhywiol ar-lein.
Does dim modd cyhoeddi enw'r ferch am resymau cyfreithiol.
Pan roedd hi'n troi'n 16 oed, teithiodd Ewing i Gymru gyda modrwyau priodas.
Cafodd ei arestio ym Maes Awyr Caerdydd, gyda nifer o ddelweddau anweddus yn ei feddiant. Roedd hefyd yn cario cyllell a darn pren.
Ddydd Mawrth, fe wnaeth y Barnwr Celia Hughes garcharu Ewing am saith mlynedd ac wyth mis yn Llys y Goron Casnewydd.
Cafodd ei ddedfrydu am 13 o droseddau, gan gynnwys achosi neu annog gweithgaredd rhywiol â phlentyn.
Clywodd y llys y gallai Ewing gael ei alltudio yn ystod ei ddedfryd ond mai mater i'r Swyddfa Gartref yw hynny.
Fe wnaeth y ddau gyfarfod ar-lein gan ddefnyddio gwefan sgwrsio fideo sy’n cysylltu defnyddwyr ar hap.
Ar y wefan dywedodd wrth y ferch ei fod yn Gristion ac yn "heliwr pedoffiliaid" [rhywun sy'n smalio bod yn ferch o dan oed ar-lein i ddatgelu pedoffiliaid].
Fe wnaeth Ewing berswadio'r ferch iddo gael ei gwylio'n syrthio i gysgu tra'u bod ar lif byw.
Y bore wedyn, dywedodd wrthi ei fod wedi cyflawni gweithgaredd rhywiol wrth iddi gysgu.
Dywedodd y ferch wrth yr heddlu bod hyn wedi peri pryder iddi ond fe arhosodd mewn cysylltiad gydag Ewing.
Dros y misoedd dilynol, fe wnaeth y diffynnydd ddechrau rheoli ei bywyd.
'Ffodus ei fod wedi'i stopio'
Clywodd y llys nad oedd rhieni’r ferch yn gwybod gyda phwy roedd hi’n siarad.
I ddechrau roedd y ferch wedi dweud wrth ei rhieni ei bod yn sgwrsio â rhywun lleol oedd yr un oed â hi.
Dywedodd y Barnwr Hughes ei fod wedi "cyfarwyddo ei hymddygiad ar-lein" gan wneud iddi ei wylio yn cyflawni gweithgaredd rhywiol dros 20 o weithiau.
"Roedd hi'n teimlo wedi'i llethu. Yn anffodus ni siaradodd â'i rhieni am hyn," meddai.
"Dywedodd y diffynnydd y byddai’n dod i’r DU gan ei bod hi’n 16 oed yn fuan, er mwyn iddyn nhw allu priodi a chael plant.
"Rydyn ni’n gwybod iddo ddod â modrwyau gydag e pan ddaeth i’r maes awyr," meddai'r Barnwr.
Cafodd yr heddlu wybod am Ewing gan awdurdodau’r Unol Daleithiau ac fe gafodd rhieni’r ferch wybod.
Dywedodd y Barnwr Hughes: "Daethpwyd o hyd i gyllell a darn pren ym magiau’r diffynnydd ar ôl cyrraedd y maes awyr – dwi’n ofni’n fawr at ba ddefnydd y gallai’r diffynnydd fod wedi rhoi’r arfau hynny o gofio ei fod yn bwriadu cwrdd â merch yn ei harddegau yr oedd wedi ei rheoli."
Ychwanegodd y barnwr fod y ferch a’i theulu wedi’u "dinistrio" gan weithredoedd Ewing.
Roedd wedi mynnu wrth swyddogion prawf fod ganddo "ganiatâd" gan fam y ferch i weithredu fel y gwnaeth.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Hughes: "Rydych chi wedi portreadu eich hun fel y dioddefwr ac nid ydych wedi cymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd."
Ychwanegodd: "Mae’n ffodus iawn eich bod wedi cael eich stopio yn y maes awyr."
Wrth siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd y ditectif uwcharolygydd Philip O’Connell o Heddlu Gwent: "Fe wnaeth Ewing greu perthynas gyda merch 15 oed ar-lein, gan feithrin perthynas amhriodol a manteisio arni am dros flwyddyn cyn teithio miloedd o filltiroedd i’w chyfarfod.
"Gan weithio’n agos gydag awdurdodau UDA a Llu Ffiniau’r DU, cafodd ei gadw ym Maes Awyr Caerdydd cyn cael ei arestio a’i gyfweld gan ein swyddogion.
"Roedd y cydweithio rhwng asiantaethau yn golygu bod Ewing wedi’i stopio cyn iddo allu achosi unrhyw niwed corfforol i’r dioddefwr.
"Fodd bynnag, bydd ei weithredoedd, wedi’u hysgogi gan ei foddhad rhywiol a’r ofn a roddodd ar ei ddioddefwr, yn cael effaith ddofn."
Ychwanegodd: "Hoffem ganmol y dioddefwr yn yr achos hwn, sydd wedi dangos cryfder a dewrder mawr trwy gydol yr ymchwiliad.
"Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn ei helpu i symud ymlaen gyda'i bywyd."