DJ gorsaf radio wedi ei chludo i’r ysbyty ar ôl cael gwaedlyn ar yr ymennydd
Mae cyflwynydd ar orsaf radio wedi cael ei chludo i’r ysbyty ar frys wedi iddi ddioddef gwaedlyn ar yr ymennydd.
Dywedodd chwaer yng nghyfraith y cyflwynydd ar orsaf radio Clyde 1, Lynne Hoggan, ei bod wedi ei tharo’n wael yn ddiweddar.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei bod wedi cael “gwaedlyn sylweddol ar ei hymennydd” a’i bod wedi cael llawdriniaeth.
Ychwanegodd bod stentiau wedi cael eu rhoi yn ei hymennydd.
‘Mae gan Lynne dipyn i fynd tan y bydd yn well” meddai. “Bydd yn yr ysbyty am gyfnod”.
Eglurodd nad ydi hi’n gallu cyfathrebu’n iawn ar hyn o bryd tra ei bod yn gwella.
Mae rhai o’i 11,5000 o ddilynwyr ar Instagram wedi anfon negeseuon yn dymuno gwellhad buan iddi.
Dywedodd ei chwaer yng nghyfraith ei bod hi’n gwerthfawrogi’r “holl gariad a’r gefnogaeth” y mae wedi ei gael yn ddiweddar.