Newyddion S4C

Rhybudd am law trwm ddydd Mawrth a dydd Mercher

15/04/2025
Ceir yn y glaw

Yng nghanol gwyliau'r Pasg, bydd rhybudd melyn am law trwm yn dod i rym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Mawrth.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi y bydd y rhybudd mewn grym o 12:00 ddydd Mawrth tan 12:00 ddydd Mercher.

Mae disgwyl i gyfnodau o law trwm a chyson ymledu o'r gogledd, gan symud ar draws y wlad, gyda rhwng 20 a 40mm o law yn debygol o ddisgyn.

Gall rhai ardaloedd brofi rhwng 50 a 7am 5mm o law yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai rhai cartrefi a busnesau brofi llifogydd, gydag oedi yn bosibl i drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.