Menyw 25 oed wedi marw mewn canolfan farchogaeth yn Sir Gâr
Menyw 25 oed wedi marw mewn canolfan farchogaeth yn Sir Gâr
Mae menyw 25 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad mewn canolfan farchogaeth yn Sir Gâr dros y penwythnos.
Yn ôl adroddiadau yn lleol, Katie Hacche oedd ei henw.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ganolfan Little Mill Equestrian ger Bronwydd ar gyrion Caerfyrddin tua 10.20 ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y fenyw wedi marw yn y fan a'r lle.
Ychwanegodd y llu nad yw ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus a bydd adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer crwner.
Mae'r digwyddiad wedi cael ei gyfeirio at adran iechyd a diogelwch yr awdurdod lleol.
'Sioc'
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd Little Mill Equestrian eu bod "mewn sioc".
"Rydyn ni gyd yn torri ein calonnau ac mewn sioc wedi'r hyn ddigwyddodd," meddai'r datganiad.
"Allwn ni ddim cyfleu mewn geiriau sut rydyn ni'n teimlo.
"Mae'n ein hatgoffa, hyd yn oed ar ddiwrnod tawel yn gwneud y gamp rydyn ni'n ei charu, mae risg yn gysylltiedig â'r peth.
"Rydym yn gwneud popeth rydyn ni'n gallu i sicrhau diogelwch pobl".