Ymateb yr heddlu i derfysg yr haf yn ‘hollol addas’ medd adroddiad
Roedd ymateb lluoedd yr heddlu i’r terfysg yn ystod yr haf wedi llofruddiaeth tair merch fach yn Southport yn “hollol addas” medd adroddiad newydd.
Daw casgliadau’r adroddiad er bod rhai wedi honni bod yr heddlu wedi bod yn fwy llym gyda rhai protestwyr nag eraill.
Fe aeth Pwyllgor Materion Cartref San Steffan ati i edrych ar ymateb yr heddlu pan gafwyd anrhefn ar y strydoedd ym mis Gorffennaf y llynedd.
Fe ddigwyddodd yr anrhefn ar ôl i Alice da Silva Aguiar, 9 oed, Bebe King, 6 oed, ac Elsie Dot Stancombe, 7 oed, gael eu llofruddio tra mewn dosbarth dawnsio Taylor Swift.
Doedd yna ddim tystiolaeth fod “safon uwch ac is” o blismona wrth ddelio efo’r lefelau o drais. Roedd yr honiadau yma yn “warthus” medd yr adroddiad.
Dywedodd ASau: “Dim protest oedd hyn. Ni chafodd rhai oedd yn ymwneud â’r anrhefn eu plismona yn llymach oherwydd eu safbwyntiau gwleidyddol tybiedig, ond yn hytrach am eu bod yn taflu pethau, yn ymosod ar swyddogion heddlu ac wedi llosgi pethau’n fwriadol.”
Yn ystod y terfysg cafodd gwestai lle'r oedd ceiswyr lloches yn byw, mosgiau, canolfannau cymunedol a llyfrgelloedd eu targedu.
Erbyn 22 Ionawr eleni roedd 1,804 o arestiadau wedi eu gwneud a 1,702 o gyhuddiadau yn sgil yr anrhefn.
Dyma oedd y cyfnod gwaethaf o drais ers terfysg yn 2011.
Dirmyg Llys
Cafodd 302 o swyddogion heddlu eu hanafu, gyda 69 yn gorfod mynd i’r ysbyty.
Ymhlith canfyddiadau eraill yr adroddiad mae’r ffaith nad oedd yr heddlu wedi rhagweld yn ddigon da'r risg y gallai anrhefn ddigwydd.
Roedd yna fylchau o safbwynt cudd-wybodaeth ynglŷn â'r hyn oedd ar y cyfryngau cymdeithasol a’r we meddai’r ASau.
Gwybodaeth ffug a damcaniaethu bod y llofrudd yn geiswyr lloches oedd yr hyn wnaeth yrru’r terfysg medd yr adroddiad.
Roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron a Heddlu Glannau Mersi wedi eu cyfyngu ynglŷn â’r hyn roedden nhw’n gallu ei ddweud am y troseddwr o achos Dirmyg Llys.
Mae adolygiad wedi ei gomisiynu i edrych os oes angen eithrio rhai rhag Dirmyg Llys os yw cyhoeddi gwybodaeth o fudd i ddiogelwch y cyhoedd.
Ymateb Llywodraeth y DU
Mae’r pwyllgor yn croesawu hynny.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Y Fonesig Karen Bradley: “Mae gwersi i’w dysgu am y ffordd mae’r holl system gyfiawnder yn gweithio gyda’i gilydd.
“Mae angen sicrhau bod heddluoedd yn gallu gwella sut maent yn delio gyda gwaith plismona cyson yn ogystal â’u cefnogi i fedru ymateb mewn argyfyngau.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref ei bod “wastad yn bwysig dysgu gwersi”.
Mae’r llefarydd yn dweud eu bod yn gweithio yn agos gyda heddluoedd i wella penderfyniadau sydd angen eu gwneud ar lefel cenedlaethol.
Maent yn cytuno bod angen “taclo gwybodaeth ffug” a dyna pam eu bod wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith adolygu'r rheolau o gwmpas Dirmyg Llys.