Newyddion S4C

Aberystwyth: Dynion mewn balaclafas wedi dwyn gwerth £150,000 o e-feiciau

Ystad Glan yr Afon

Mae’r heddlu yn ymchwilio wedi i ddynion mewn balaclafas ddwyn gwerth tua £150,000 o e-feiciau yn Aberystwyth.

Fe ddigwyddodd y lladrad am 21.30 nos Sadwrn ar Ystâd Ddiwydiannol Glan yr Afon, Llanbadarn Fawr, meddai Heddlu Aberystwyth a Machynlleth.

Fe wnaeth pedwar o ddynion lwytho’r e-feiciau i mewn i fan arian golau Luton.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad i gysylltu. 

Hoffen nhw siarad ag unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn yr ardal sydd â theledu cylch cyfyng neu fideo ar gloch y drws, ac unrhyw un oedd yn gyrru yn yr ardal ar y pryd sydd â chamera dashfwrdd yn eu cerbydau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.