Rhybudd i deithwyr dros gyfnod gwyliau’r Pasg
Mae asiantaethau moduro yn rhybuddio teithwyr i Gymru i ddisgwyl oedi dros gyfnod gwyliau’r Pasg.
Mae mwy na 19 miliwn o deithiau wedi’u cynllunio rhwng dydd Iau a dydd Llun y Pasg ar draws y DU yn ôl cymdeithas foduro'r RAC.
Dywedodd yr RAC y bydd traffig “yr un mor ddifrifol” ddydd Iau, dydd Gwener y Groglith a dydd Sadwrn. Mae amcangyfrif o 2.7 miliwn o deithiau hamdden mewn car wedi’u cynllunio ar draws y DU bob dydd.
Dywedodd Alice Simpson o’r RAC, y gall yrwyr ddisgwyl “lefelau hynod o uchel o draffig o ddydd Iau ymlaen”.
Dywedodd: “Mae bob amser yn well teithio mor gynnar â phosibl yn y bore neu’n hwyrach yn y dydd pan fydd y rhan fwyaf o’r traffig wedi lleihau, yn enwedig os ydych chi’n mynd i gyrchfannau gwyliau poblogaidd fel Cymru, Gorllewin Lloegr a’r Alban.”
“Ni ddylai gyrwyr ddisgwyl dianc o’r ciwiau os nad ydyn nhw’n cynllunio’r amser gorau i gychwyn."
Ar Ddydd Gwener y Groglith, disgwylir i'r cyfnodau hiraf o oedi fod rhwng 11:00 a 13:00 ar hyd traffyrdd a ffyrdd i fannau poblogaidd neu feysydd awyr a phorthladdoedd.
Mae'r Pasg dair wythnos yn ddiweddarach eleni nag yn 2024, a disgwylir i hyn effeithio ar faint o geir sydd ar y ffyrdd.
'Amddiffyn'
Yng Nghymru, mae pobl yn cael eu hannog i ystyried defnyddio gwasanaethau bysys lleol yr ardal yn hytrach ‘na gyrru os yn ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri.
Mae trafferthion parcio wedi achosi cur pen i'r awdurdodau yn ystod cyfnodau prysur o'r gwanwyn a’r haf dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i “fanteisio” ar wasanaeth Sherpa Eryri er mwyn ymweld â’r ardal mewn ffordd “gynaliadwy”.
Mae’n rhaid i yrwyr bellach archebu lle parcio ym Mhen y Pas ar gost o £20 am wyth awr, neu gallai’r rhai sy’n parcio ar ochr y ffordd gael dirwy neu gallai’r heddlu lusgo eu car i ffwrdd.
Dywedodd Pennaeth Partneriaeth Parc Cenedlaethol Eryri, Angela Jones: "Drwy leihau'r defnydd o geir yn Eryri a'r cyffiniau, mae'r gwasanaethau bws hyn yn cyfrannu at amddiffyn ein hamgylchedd gan gefnogi trefi a phentrefi lleol trwy ddod ag ymwelwyr yn syth at garreg eu drws."