Newyddion S4C

Pennod newydd yn hanes stadiwm San Helen

11/04/2025

Pennod newydd yn hanes stadiwm San Helen

Stadiwm San Helen ger traeth Abertawe.
 
Un o gonglfeini chwaraeon Cymru ers dros 150 o flynyddoedd.
 
Mae gan San Helen lle yn hanes chwaraeon y genedl.
 
Mae'n amser am bennod newydd yn hanes y stadiwm.
 
Dyma fydd cartref newydd tim rygbi rhanbarthol y Gweilch erbyn y flwyddyn nesaf a'r newidiadau i'r stadiwm yn achosi teimladau cymysg i gyn-fewnwr Abertawe, Cymru a'r Llewod wnaeth serennu ar y cae.
 
"Mae'n drist mewn un ffordd achos mae'r cae'n mynd i newid a 5G yn dod mewn.
 
"Fi'n gwybod pam, oedd cae San Helen ymysg y gorau ym Mhrydain.
 
"Mae'n neis bod y Gweilch yn dod lawr fan hyn a hwn bydd cartre nhw.
 
"Mae'n bwysig, nid jyst i Abertawe ond yr ardal i gyd."
 
Diwedd cyfnod fydd hi yn sicr yn y gem ddydd Sadwrn cyn i'r Gweilch symud i Fae Abertawe.
 
Er bydd clwb rygbi Abertawe yn dal i chwarae ar y cae hwn bydd yn nodi'r diwedd ar y chwarae ar y gwair hanesyddol yma.
 
Nid ar chwarae bach mae adnewyddu un o stadiymau enwocaf rygbi Cymru.
 
"We're an elite rugby club, so we have to have a good..."
 
Y Gweilch fydd yn gyfrifol am 'ny.
 
Moderneiddio'r stadiwm fydd y nod, ie.
 
Ond cynnal yr hyn sydd yno'n barod yn ogystal.
 
"We feel very privileged to be coming to such an old ground and breathing new life into it.
 
"Swansea is an important part of that.
 
"It needs to be a proper Welsh rugby ground with all the attributes we can bring to it like the 4G pitch and the connectivity and other facilities here.
 
"Hopefully it'll be the best of both worlds for everybody."
 
Nol ar gae San Helen, dychwelyd i ddyddiau da rygbi yn Abertawe yw gobaith yr arwr lleol yma.
 
"Fi 'di bod mewn gemau fan hyn pan oedd y banc yna a bob lle yn llawn.
 
"Fi'n gobeithio bydd y cefnogwyr yn dod mas i gefnogi'r tim a gobeithio mynd nol i ble roedd Abertawe blynyddoedd yn ol.
 
"Nawr wrth gwrs gyda chrys y Gweilch."
 
Dechrau newydd i hen stadiwm, ond hanes y gorffennol yn sbardun am lwyddiant i rygbi yn Abertawe.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.