Andrew Tate wedi 'pwyntio gwn at wyneb menyw'
Mae’r dylanwadwr dadleuol, Andrew Tate, wedi’i gyhuddo o bwyntio gwn at wyneb menyw, yn ôl dogfennau llys.
Daeth dogfennau a gyflwynwyd i Uchel Lys y DU gan bedair dynes i'r amlwg ddydd Iau, sy'n honni bod Tate wedi eu camdrin yn rhywiol.
Mae un dynes yn honni bod Tate wedi cydio ynddi yn ei gwddf ar sawl achlysur yn 2015, wedi ymosod arni gyda gwregys ac wedi pwyntio gwn at ei hwyneb.
Mae ail ddynes yn honni bod Tate wedi ei thagu yn ystod rhyw heb ei chaniatâd yn 2015 ac y byddai'n barod i "ladd" pe bai "unrhyw un arall yn siarad efo hi".
Mae trydedd menyw yn honni bod y dylanwadwr wedi dweud "dwi'n trio penderfynu a ddylwn dy dreisio ai peidio" cyn mynd ymlaen i gael rhyw gyda hi heb ei chaniatâd yn 2013, gan ofyn wrthi "pwy sydd bia chdi?" yn ôl y dogfennau.
Mae’r fenyw olaf yn honni ei fod wedi dweud ymadroddion fel "fi bia chdi" a "dwi'n mynd i dy ladd" a’i fod wedi ei thagu yn ystod rhyw nes iddi lewygu yn 2014.
'Ffug'
Mewn ymateb, dywedodd Tate fod yr honiadau yn ei erbyn yn "ffug".
Yn ôl Tate, nid oedd y menywod "yn cael eu rheoli "ac nid oedden nhw’n "ymddwyn fel petaen nhw’n cael eu rheoli" ganddo.
Mae’r pedair dynes yn dwyn achos sifil yn ei erbyn yn yr Uchel Lys ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Goron benderfynu peidio ag erlyn yn 2019.
Roedd tair ohonyn nhw yn destun ymchwiliad gan Heddlu Sir Hertford a gafodd ei gau yn 2019.
Yn Rwmania, mae Tate a'i frawd Tristan yn wynebu honiadau o fasnachu mewn plant, gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn, a gwyngalchu arian.
Cafodd achos ar wahân yn eu herbyn, lle roedden nhw’n cael eu cyhuddo o fasnachu mewn pobl a ffurfio gang troseddol i ecsbloetio menywod yn rhywiol, ei anfon yn ôl at erlynwyr.
Mae disgwyl i’r pâr gael eu halltudio i’r DU ar ôl i achos yn Rwmania ddod i ben.
Daw ar ôl i Heddlu Sir Bedford gael gwarant arestio Ewropeaidd ar gyfer honiadau ar wahân o dreisio a masnachu mewn pobl yn ymwneud â gwahanol fenywod.
Mae’r honiadau hynny, y mae’r brodyr yn "gwadu’n ddiamwys", yn dyddio’n ôl i 2012-2015.