Newyddion S4C

Cricieth: Apêl yn dilyn ymosodiad rhyw ar draeth ger y dref

09/04/2025
Cricieth (c.c. Richard Allaway)

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am dystion yn dilyn ymosodiad rhyw yng Nghricieth ar ddydd Sadwrn 5 Ebrill.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger llwybr yr arfordir ar y traeth tua 19.30.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Mark Dickson o Heddlu'r Gogledd: “Rwy’n apelio ar unrhyw un oedd yn cerdded yn ardal traeth Graig Ddu a llwybr yr arfordir rhwng 17.30 a 18.30pm i gysylltu â ni.

“Mae digwyddiadau o’r math hwn yn brin, a byddwn yn sicrhau’r gymuned bod presenoldeb cynyddol yr heddlu yn yr ardal i gynnig sicrwydd.

“Mae ymchwiliadau i’r digwyddiad hwn yn parhau, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ditectifs yn eu hymholiadau i gysylltu â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 25000279939.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.