'Hollol unigryw': Teyrngedau i’r cyn athro Frank Letch
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r cyn athro Frank Letch, sydd wedi marw yn 80 oed.
Roedd Mr Letch yn athro Ffrangeg yn Ysgol y Berwyn yn y Bala am 20 mlynedd ac yn ddiweddarach, yn Faer ar dref Crediton, yn Nyfnaint.
Cafodd ei eni heb freichiau yn nwyrain Llundain yn 1944 yn ystod Blitz yr Ail Ryfel Byd.
Er iddo ddweud ei fod wedi cael profiad “erchyll” mewn ysgol i blant ag anghenion arbennig, fe lwyddodd i gael 10 Level O a thri lefel A.
Fe aeth ymlaen i’r brifysgol yn Birmingham i astudio Ffrangeg ac Eidaleg, cyn cymhwyso fel athro.
Fe symudodd i ardal y Bala i weithio yn Ysgol y Berwyn, gan fyw gyda’i wraig Helen a’u pump o blant yn Llanuwchllyn.
Bu farw ei wraig o ganser pan oedd y plant yn ifanc.
Roedd yn ddibynnol iawn ar ei draed i gwblhau tasgau pob dydd, ond roedd yn mynnu nad oedd hynny yn ei ddal yn ôl.
Roedd yn destun sawl rhaglen deledu, gan gynnwys y rhaglen Drych: Byw Heb Freichiau, ar S4C, yn 2021.
Dywedodd ar y pryd: “Fy mreuddwyd erioed yw bod yn hapus, bod yn annibynnol a pheidio dibynnu ar neb, yn enwedig fy rhieni. Dwi eisiau bod yn gyfrifol amdanaf i fy hun, dwi fel yna ers yn blentyn. Dwi eisiau bod y bos.
“Maen nhw’n dweud fod gen i special needs, ond ‘does gen i ddim, mae gen i abledd arbennig, special abilities.
“Mae Duw wedi rhoi dyn arbennig ar y byd. Does 'na ddim neb yn cael gwell bywyd na fi. Dydw i ddim yn credu mod i’n victim o ddim byd.”
Yn ddiweddarach, fe symudodd i Ddyfnaint, lle dreuliodd 13 mlynedd fel maer Crediton. Yno, fe wnaeth ail-briodi, a’i wraig Natalia, a wnaeth hefyd weithio fel Maer y dref.
Mae sawl cyn ddisgybl Ysgol y Berwyn wedi rhoi teyrngedau iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe wnaeth Dwyryd Williams ei ddisgrifio fel "cymeriad hollol unigryw", tra bod Siân Melangell Dafydd wedi dweud ei fod yn "athro na wna i fyth anghofio."
Wrth roi teyrnged, dywedodd Cyngor Tref Crediton y byddent yn gostwng baner y dref i hanner mast.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Heddiw, rydym yn galaru am golli Cynghorydd Tref Crediton, Frank Letch MBE, a wasanaethodd fel ein Maer o 2008 - 2021.
“Roedd Frank yn arweinydd ymroddedig a llawn tosturi, ac yn bencampwr gwirioneddol dros ein cymuned, a llawer o rai eraill. Mae ei waddol yn un o ddyfalbarhad, cynnydd, ac ystyriaeth i bawb sy'n byw yn ein tref.”