Newyddion S4C

'Rhaid i fi fod yn ofalus iawn': Gardd yn suddo i’r môr ym Mhenarth

ITV Cymru 08/04/2025
Jean Evans / ITV

Mae tŷ Jean Blythe-Evans yn edrych dros arfordir Bro Morgannwg, ond mae’r olygfa yn dod ychydig yn agosach bob dydd. 

Mae'r cartref ar glogwyni Penarth ac wrth i'r arfordir erydu, a'r tir yn suddo ger ei chartref.

"Roedd yna risiau yn mynd yr holl ffordd i lawr yno, mae darnau ar ôl, ond mae'r rhan fwyaf ohono wedi chwalu," meddai.

"Pan fyddai’n torri'r glaswellt mae'n rhaid i fi fod yn ofalus iawn, nid wyf yn cerdded yn ôl, rhag ofn i fi ddisgyn i waelod y clogwyn."

Image
Mae erydiad arfordirol yn bygwth cartrefi a busnesau ledled Cymru.
Mae erydiad arfordirol yn bygwth cartrefi a busnesau ledled Cymru.

Ym Mhenarth, mae 20cm bob blwyddyn yn cael ei golli i'r môr.

Mae newid hinsawdd yn golygu bod cyfuniad o lefelau môr uwch, a thywydd mwy eithafol yn bygwth cannoedd o filltiroedd o arfordir Cymru.

‘Mae’n broblem ar raddfa fawr’

Dywedodd yr arbenigwr erydu arfordirol, yr Athro Shunqi Pan: "Bydd lefelau'r môr yn parhau i godi dros y ganrif nesaf. Mae'n broblem ar raddfa fawr, ni allwn ei datrys ar ein pen ein hunain.

"Dylid dod â mwy o systemau monitro i mewn i leihau'r effaith."

Image
Yr Athro Shunqi Pan
Yr Athro Shunqi Pan

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg, nad yw gwaith ymchwil gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn rhagweld y caiff adeiladau eu colli dros y cyfnod presennol, ond maen nhw'n dweud bod monitro rheolaidd yn parhau

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.