Newyddion S4C

'Diffygion sylweddol': Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ymddiheuro i glaf

08/04/2025
S4C

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro i glaf a gwynodd am y gofal a dderbyniodd gan y bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth iechyd yn Lloegr.

Mae adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn nodi 'diffygion sylweddol yng ngofal ôl-driniaethol claf'.

Fe gafodd ymchwiliad ei gyhoeddi gan yr Ombwdsmon ar ôl derbyn cwyn gan Ms A am y gofal a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Lerpwl.

Roedd pryderon Ms A yn cynnwys ei gofal a'i rheolaeth wedi ei llawdriniaeth ar gyfer clefyd llid y coluddyn yn 2019. Roedd ei chwyn hefyd yn ymwneud ag os y gwnaeth gydsynio yn briodol ar gyfer llawdriniaeth ym mis Mai 2022. 

Cafodd y gofal gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Lerpwl ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd yr ymchwiliad felly yn adolygu'r gofal a gafodd Ms A gan yr Ymddiriedolaeth yn Lloegr ar ran y bwrdd iechyd. 

'Ymddiheuro yn ddiffuant'

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Carol Shillabeer: “Dwi’n ymddiheuro yn ddiffuant am brofiad gwael y claf yma ac mae’r Bwrdd wedi’i ymrwymo yn llawn i symud ymlaen a dysgu o’r achos yma. 

“Mae’n hanfodol ar gyfer iechyd ein poblogaeth ein bod ni’n gweithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau eraill. Mae’n amlwg ein bod ni angen gwella ein trefniadau goruchwylio ar gyfer y gwasanaethau hyn sy’n cael eu comisiynu ac rydym ni’n derbyn canfyddiadau yr Ombwdsmon yn llawn.”

'Sawl methiant'

Daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i'r casgliad fod 'sawl methiant ar draws agweddau amrywiol' ar driniaeth a gofal Ms A.

Fe arweiniodd hyn at haint a salwch parhaus i'r claf am bron i dair blynedd cyn iddi orfod derbyn triniaeth lawfeddygol ym mis Mawrth 2022.

Ychwanegodd yr ymchwiliad na roddodd Ms A 'gydsyniad ar sail penderfyniad cytbwys' ar gyfer y llawdriniaeth yma, gan mai dim ond ar ddiwrnod ei llawdriniaeth yr arwyddodd y ffurflen gydsynio.

Nid oedd cofnod o drafodaeth flaenorol â'r claf am y posibilrwydd y byddai'n cael hysterectomi yn ystod y llawdriniaeth, yn ôl y canfyddiadau. 

'Anghyfiawnder'

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Rwy’n ymwybodol o’r anghyfiawnder dwys y mae Ms A wedi’i brofi o ganlyniad i’r methiannau sylweddol sydd wedi digwydd yn ei hachos.

"Rwy’n bryderus iawn am y broses lle roddodd Ms A ei 'chydsyniad' ar gyfer y llawdriniaeth ym mis Mawrth 2022.  Mae’r canllawiau perthnasol yn ei gwneud yn glir nad mater o lenwi a llofnodi ffurflen yn unig yw cydsynio.  

"Yn hytrach, mae cydsynio yn broses a ddylai ddechrau ymhell cyn diwrnod y llawdriniaeth a dylai unrhyw drafodaethau gael eu cofnodi’n glir ac ar wahân fel rhan o’r broses gydsynio. Ni ddigwyddodd hyn yma. "

Fe wnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, ac mae'r Bwrdd Iechyd wedi eu derbyn.

Mae'r rhain yn cynnwys ymddiheuro i Ms A a rhannu'r adroddiad ag aelodau perthnasol y Bwrdd Iechyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.