Cyn-bennaeth strategaeth pêl-droed Lloegr 'yn ffefryn i fod yn Gyfarwyddwr Rygbi Cymru'
Cyn-bennaeth strategaeth pêl-droed Lloegr ydy'r ffefryn ar gyfer rôl Cyfarwyddwr Rygbi, Undeb Rygbi Cymru, yn ôl adroddiadau.
Roedd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Abi Tierney wedi gobeithio cyhoeddi enw'r Cyfarwyddwr Rygbi newydd erbyn diwedd mis Mawrth.
Er nad oes cyhoeddiad swyddogol, mae ITV Cymru yn deall mai Dave Reddin ydy'r ffefryn.
Mae Dave Reddin wedi gweithio mewn amryw o swyddi yn y byd pêl-droed a rygbi yn Lloegr.
Roedd yn hyfforddwr ffitrwydd pan enillodd Lloegr Gwpan Rygbi'r Byd yn 2003 yn ogystal â'n Bennaeth Gwasanaethau Perfformiad yng Nghymdeithas Olympaidd Prydain.
Yn 2014, cafodd ei benodi yn Bennaeth Strategaeth Tîm a Pherfformiad y Gymdeithas Bêl-droed yn Lloegr, gan weithio'n agos gyda'r rheolwr ar y pryd, Gareth Southgate.
Mae rôl y cyfarwyddwr wedi bod yn wag ers i Nigel Walker adael Undeb Rygbi Cymru fis Rhagfyr. Ac mae Huw Bevan wedi ymgymryd â'r gwaith dros dro.
Dros y misoedd diwethaf, mae Undeb Rygbi Cymru wedi pwysleisio fod y Cyfarwyddwr Rygbi newydd yn benodiad hanfodol, gyda chyfrifoldebau'r swydd yn cynnwys goruchwylio holl weithgaredd rygbi yng Nghymru.