
Cyngor Caerdydd wedi gwario £1m ar gynlluniau am drac seiclo ni ddaeth i ffrwyth
Fe wariodd Cyngor Caerdydd mwy ‘na £1 miliwn ar gynlluniau i adeiladu trac seiclo newydd cyn iddyn nhw benderfynu peidio â bwrw ‘mlaen gyda’r prosiect yn gynharach eleni.
Cyhoeddodd y cyngor ym mis Ionawr na fyddan nhw bellach yn adeiladu felodrom ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol (ISV) yn Grangetown gan y byddan nhw’n adeiladu safle gyrru golff (driving range) ar y safle yn lle.
Mae cais rhyddid gwybodaeth (FOI) gan ohebwyr o’r gwasanaeth Democratiaeth Leol bellach wedi datgelu fod y cyngor wedi gwario £1,038,420 ar y cynlluniau, a gafodd eu cyflwyno am y tro cyntaf yn 2021.
Cafodd yr arian ei wario ar wasanaethau gwahanol, gan gynnwys ar ymgynghorwyr busnes, gwaith cynllunio o flaen llaw, gwaith dylunio a llogi contractwr.
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod nhw wedi gwario £625,000 ar y prosiect mewn gwirionedd. Maen nhw’n dweud y bydd elfennau o’r prosiect yn “parhau i fod yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i'r cyngor yn y dyfodol."
Dyma restr lawn o beth gafodd ei wario rhwng mis Mawrth 2021 ac Ionawr 2025:
- Gwaith cynllunio o flaen llaw: £457,396
- Arolygiad ar y safle: £124,143
- Contractwyr: £30,633
- Ymgynghorwyr busnes: £29,535
- Ffioedd cynllunio: £1,670
- Cynlluniau dylunio RIBA (sef cam dylunio sy'n cynnwys paratoi dyluniadau peirianneg a phensaernïol manwl): £395,043

Topgolf
Roedd disgwyl i’r trac seiclo newydd gael ei adeiladu ger Bae Caerdydd gan gymryd lle Felodrom Maendy yn Cathays.
Y bwriad yn wreiddiol oedd dymchwel trac seiclo Maendy fel rhan o gynlluniau i ehangu Ysgol Uwchradd Cathays.
Ond ym mis Ionawr fe gyhoeddodd y cyngor eu bod nhw wedi cael cynnig i drafod defnyddio safle gwahanol gan olygu na fydd yn rhaid dymchwel trac seiclo Maendy bellach.
Fe fydd y safle yn Grangetown bellach yn cael ei ddefnyddio fel safle gyrru newydd gan Topgolf.
Dyw cais cynllunio ddim wedi cael ei gyflwyno eto.