Diswyddo swyddog Heddlu Dyfed-Powys am gamymddwyn difrifol
Mae swyddog gyda Heddlu Dyfed-Powys wedi ei ddiswyddo wedi i wrandawiad camymddwyn difrifol ddod i'r casgliad ei fod wedi torri safonau proffesiynol.
Roedd nifer o honiadau yn erbyn y cyn Uwch-arolygydd Gary Davies, gan gynnwys ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol ac mewn modd misogynistaidd tuag at gydweithwyr benywaidd rhwng 2017 a 2020.
Cynhaliwyd Gwrandawiad Camymddwyn Difrifol ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys rhwng 24 Mawrth a 4 Ebrill.
Roedd yr heddwas wedi ei wahardd o'i waith ers mis Gorffennaf 2022, yn dilyn yr honiadau yn ei erbyn.
Daeth cadeirydd y gwrandawiad i'r casgliad ddydd Gwener ei fod wedi torri’r safonau ymddygiad proffesiynol mewn perthynas ag Awdurdod, Parch a Chwrteisi, Ymddygiad Gwarthus, a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth, ac mae’i wedi’i ddiswyddo o Heddlu Dyfed-Powys.
Fe fydd hefyd yn cael ei ychwanegu at Restr Waharddedig y Coleg Plismona, fydd yn ei atal rhag ailymuno â’r gwasanaeth heddlu.
Safonau ymddygiad
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Ifan Charles o Heddlu Dyfed-Powys: “Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl y safonau ymddygiad proffesiynol uchaf wrth ei swyddogion a’i staff, boed hwy ar ddyletswydd neu beidio – yn enwedig wrth ei dîm uwch arweinwyr.
“Ymddiheuraf i gyn swyddogion a staff, a swyddogion a staff presennol, a gafodd eu herlid gan ymddygiad amhriodol y cyn Uwch-arolygydd Gary Davies, a diolchaf iddynt am eu dewrder drwy adrodd am ei gamymddwyn.
“Rydyn ni wedi clywed am brofiadau nifer o gydweithwyr a chyn gydweithwyr dros y bythefnos diwethaf, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn fenywod sydd wedi dioddef o’i ymddygiad wreig-gasaol wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.
“Maen nhw’n fodelau rôl, a diolchaf iddynt am yr uniondeb a’r dewrder maen nhw wedi dangos yn y sefyllfa anodd ac annerbyniol hon."
Ychwanegodd fod yr achos wedi bod yn un "brawychus" ond bod camau wedi’u cymryd "yn fuan" i wahardd yr Uwch-arolygydd Gary Davies unwaith y gwnaed yr honiadau.
“Mae canlyniad gwrandawiad heddiw’n adlewyrchu’r ymagwedd hon, ac rwy’n gobeithio bod hyn yn sicrhau’r cyhoedd y bydd Heddlu Dyfed Powys yn gwneud pob peth y gall i gynnal y safonau uchel a ddisgwylir yn briodol gan swyddogion a staff – yn enwedig y rhai mewn swyddi uwch," meddai.
“Fel heddlu, byddwn ni’n defnyddio pob offeryn sydd ar gael inni er mwyn sicrhau dull effeithlon a chwim o ddiswyddo swyddogion na ddylai bellach ddal swydd cwnstabl.”