
Caernarfon v Pen-y-bont: 'Cyffro ac anrhydedd' ar drothwy diwrnod hanesyddol
Caernarfon v Pen-y-bont: 'Cyffro ac anrhydedd' ar drothwy diwrnod hanesyddol
Fe fydd hi’n ddiwrnod hanesyddol i ddau glwb rygbi cymunedol yng Nghymru ddydd Sadwrn.
Bydd Clwb Rygbi Caernarfon yn wynebu Clwb Rygbi Athletic Pen-y-bont yn rownd derfynol Cwpan Adran Un yn Stadiwm Principality - y tro cyntaf i'r ddau glwb gyrraedd y rownd derfynol.
Fe gafodd Clwb Pen-y-bont ei sefydlu ym 1978, gan weithio'i ffordd i fyny'r cynghreiriau ac maen nhw bellach wedi bod yn chwarae yng nghynghrair Adran Un Canol y Gorllewin ers nifer o flynyddoedd.
Mae gan Glwb Rygbi Caernarfon dros 350 o aelodau iau a 500 o aelodau hŷn yn y clwb, ac mae tîm y dynion yn chwarae yng nghyngrair Adran Un y gogledd.
Dywedodd rheolwr tîm Athletic Pen-y-bont Paul Hearne: “Mae’r rygbi yn eitha da, mewn ffordd.
"'Dyn ni mor hapus. I fod yn deg, ‘dyn ni wedi cael rhediad da, mae ein holl gemau ni wedi bod gartref felly ‘dyn ni wedi bod yn ffodus i gael gemau cartref ac wedi ennill yn dda yn y rowndiau cynnar.
“Maen nhw i gyd wedi bod yn gemau anodd ond ‘dyn ni wedi chwarae yn dda iawn. ‘Dyn ni gyd mor gyffrous ac yn edrych ymlaen at y gêm."

Er nad ydy Pen-y-bont yn gwybod llawer am Gaernarfon, maen nhw'n barod am gêm gystadleuol yn ôl Mr Hearne.
"'Dyn ni’n gwybod eu bod nhw’n dîm da yn amlwg. Dydyn ni ddim wir yn gwybod pa mor gryf fyddan nhw, maen nhw yn y ffeinal felly mae yna barch yn amlwg. Ond dydyn ni ddim yn gwybod llawer am rygbi yng ngogledd Cymru.
“Dyn ni’n gwybod eu bod nhw’n dîm da gan eu bod nhw wedi cyrraedd y ffeinal. Fe wnaethon nhw guro Sgiwen, un o’n gwrthwynebwyr ni yn Adran Un Canol y Gorllewin yn y rownd gyn-derfynol felly parch iddyn nhw, rili."
Ychwanegodd: "Mae rhaid i chi fod yn hyderus, bydd Caernarfon yn hyderus hefyd. ‘Dyn ni’n edrych ymlaen at y gêm ac rydym ni eisiau chwarae rygbi ac mae’r bechgyn i gyd yn gyffrous iawn."
Dyma'r tro cyntaf i Glwb Rygbi Caernarfon fod yn y rownd derfynol hefyd, ac yn ôl prif hyfforddwr y tîm dynion, Carl Russell Owen, fe fydd hi'n brofiad bythgofiadwy i bawb sy'n ymwneud â'r clwb.
"Mae o’n fraint ag yn anrhydedd cael chwarae yn y ffeinal, cael chwarae yn Stadiwm y Principality yn beth mawr i ni. Tro cynta erioed i Glwb Rygbi Caernarfon gyrraedd y ffeinal a chael chwarae ar llwyfan mwyaf Cymru, dan ni’n teimlo’n lwcus iawn," meddai.
"Dwi’n gobeithio bod o’n rhyw fath o ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a’r cefnogwyr sy’n ynghlwm â'r clwb ac yn cynnal y clwb trwy’r flwyddyn felly ia, mae o am fod yn achlysur mawr, yn achlysur da ag yn un 'dan ni gyd yn edrych ymlaen."

Bydd cannoedd yn teithio i lawr o Gaernarfon i gefnogi eu tîm ddydd Sadwrn yn ôl Mr Owen.
"Ma genna ni bedwar bys yn mynd lawr am y penwythnos, dwi’n gwbod bod ‘na 500 o docynnau wedi eu gwerthu i gefnogwyr Caernarfon felly fydd ‘na ddipyn o Cofis yn mynd lawr penwythnos 'ma," meddai.
"Ma’i am fod yn dipyn o achlysur i ni gyd, pawb yn edrych ymlaen yn fawr iawn i’r gêm fawr. Fydd hi’n gem heriol achos ma' Clwb Athletic Pen-y-bont yn dîm da iawn ond 'dan ni gyd yn edrych ymlaen am yr her."
Bydd Clwb Rygbi Pontypridd yn wynebu Clwb Rygbi Cross Keys yn rownd derfynol Cwpan yr Uwch-gynhrair, 11 mlynedd union ar ôl iddyn nhw wynebu ei gilydd yn y rownd derfynol ddiwethaf.
Bydd Crwydriaid Llanelli yn wynebu Clwb Rygbi Tondu yn rownd derfynol Cwpan y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn hefyd.