'Breuddwyd' actor Hollywood i serennu'n Gymraeg ar ôl dysgu'r iaith
'Breuddwyd' actor Hollywood i serennu'n Gymraeg ar ôl dysgu'r iaith
Mae un o actorion Hollywood wnaeth ddysgu Cymraeg ar gwrs yng Nghaerdydd yn dweud y byddai'n "freuddwyd" actio mewn drama Gymraeg.
Dechreuodd Hans Obma, sydd wedi actio yn Better Call Saul, The Vampire Diaries a Narcos: Mexico ddysgu'r Gymraeg yn haf 2023.
Treuliodd yr haf yn dysgu'r iaith ar gwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi iddo ddychwelyd i America mae'n parhau i ddysgu trwy ddilyn cwrs ar-lein.
Fe ddaeth diddordeb yr actor sydd yn byw yn Los Angeles yn y Gymraeg o'i fam-gu, oedd yn byw ym Mrynmawr, Blaenau Gwent cyn symud i America ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Mae ganddo deulu sy'n dal i fyw yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
"Pan roeddwn i'n tyfu fyny, roeddwn i wedi teithio i Gymru a'i fwynhau," meddai wrth Newyddion S4C.
"Ers yn blentyn dwi wedi teimlo cysylltiad gyda Chymru a'r Gymraeg, ac mae hynny wedi aros gyda fi.
"Pob tro roeddwn i'n ysgrifennu sgript i gyfres deledu, roedd Cymru yn dod yn rhan fawr ohono.
"Yn y gyfres dwi'n cyflwyno i gwmnïau ar hyn o bryd, mae'r prif actor yn siaradwr Cymraeg.
"Dwi'n credu bod hwn yn ffordd o rannu Cymraeg gyda'r byd, a bod pobl yn ymwybodol o'r iaith Gymraeg."
'Actio yn Gymraeg'
Cafodd Hans ei eni yn Wisconsin, ac er ei fod bellach yn byw yn Los Angeles mae'n gwneud ymdrech i deithio yn ôl i Gymru.
Yn ystod y cyfnod clo fe ddechreuodd ysgrifennu cyfres o'r enw The Question of Service lle'r oedd y prif gymeriad yn siarad Cymraeg.
Mae'r actor yn gallu siarad Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Iseldireg yn rhugl yn ogystal â'r Gymraeg.
Yn y rhan fwyaf o'i waith actio, ef sydd yn chwarae rhan y dihiryn.
Dywedodd y byddai wrth ei fodd pe bai ganddo gyfle i actio mewn drama Gymraeg.
"Byddwn i wrth fy modd yn actio yn Gymraeg ar S4C, a byddwn yn caru pe bai'r cyfle yn dod yn fuan.
"Hoffwn i hefyd weld dihiryn Cymreig ar raglen deledu sydd yn cael ei darlledu ar draws y byd i fod yn onest.
"Ond byddai'n freuddwyd gallu actio yn Gymraeg, dwi wir wedi mwynhau dysgu'r iaith.
"Byddai'r cyfle i wneud hynny fel swydd ac yng Nghymru yn freuddwyd, byddwn i'n caru gwneud hynny."
Cysylltu â Chymry Cymraeg.
Yn byw yn Los Angeles, mae Hans yn cwrdd a gweithio gyda phobl o bedwar ban y byd.
Dywedodd ei fod yn cael cyfle i siarad yr ieithoedd mae wedi ei ddysgu yn aml, gan ymarfer a gwella ei sgiliau ieithyddol.
Hoffai fod mwy o gyfle ganddo i siarad Cymraeg gyda phobl, a'r ffordd orau iddo wella safon ei Gymraeg yw trwy ei siarad gyda phobl wahanol.
"Dwi eisiau siarad Cymraeg pob dydd, achos y peth anodd yw peidio cael y cyfle o ddydd i ddydd i siarad yr iaith.
"Mae'n wahanol gyda Sbaeneg a Ffrangeg, chi'n gallu mynd unrhyw le ym Mecsico, Sbaen, Ffrainc a jyst siarad yr iaith.
"Ond nid yw'n hawdd gwneud 'na yng Nghymru, ac fe brofais i hynny yng Nghaerdydd.
"Fy ffordd i o ddysgu ydy siarad, siarad, siarad, felly dyna ydy'r brif her i mi wrth ddysgu'r iaith."
Yn ddiweddar, rhannodd Hans fideo 'canllaw ymwelwyr i Los Angeles' yn y Gymraeg yn y gobaith o allu cysylltu gyda mwy o Gymry Cymraeg.
"Dwi eisiau creu mwy o gysylltiadau gyda phobl yng Nghymru," meddai.
"Roeddwn i'n meddwl y byddai pobl Cymru yn gwerthfawrogi canllaw i LA, achos pan dwi'n cwrdd â phobl yno sydd yn hoffi teledu a ffilm maen nhw'n dweud eu bod nhw eisiau ymweld ag LA.
"Hefyd hoffwn i wir ddatblygu a ffilmio yng Nghymru, felly pam ddim ceisio cysylltu gyda mwy o bobl yn y wlad?"