'Calon o aur': Teyrnged teulu i ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam
Mae teulu dynes 47 oed a fu farw ar ôl gwrthdrawiad yn Wrecsam yr wythnos ddiwethaf wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Lydia La Polla o Wrecsam yn yr ysbyty ddydd Mercher, 26 Mawrth, ar ôl gwrthdrawiad yn ardal Hightown o'r ddinas ar ddydd Llun, 24 Mawrth.
Digwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 21.30 rhwng car Mercedes arian a Toyota, sef y car yr oedd Lydia La Polla yn teithio ynddo.
Roedd y Mercedes yn cael ei ddilyn ar y pryd gan swyddogion o Heddlu'r Gogledd.
Bu farw Lydia La Polla yn yr ysbyty ddeuddydd yn ddiweddarach.
Mae'r dyn oedd yn y Toyota yn parhau i dderbyn triniaeth am anafiadau sydd wedi eu disgrifio fel rhai fydd yn newid ei fywyd.
Mae’r Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) bellach yn ymchwilio i weithredoedd Heddlu Gogledd Cymru cyn y gwrthdrawiad.
'Calon o aur'
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei theulu fod ganddi "wir galon o aur" a’i bod "yn ymroddedig i’w theulu".
"Rydyn ni wedi ein llorio ac mae ein calonnau wedi torri yn dilyn marwolaeth Lydia," meddai ei theulu.
"Bydd yn cael ei cholli gan deulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr.
"Roedd gan Lydia wir galon o aur a byddai bob amser yno i eraill gyda’i gweithredoedd anhunanol o garedigrwydd.
"Bydd nos Lun 24 Mawrth wedi ein creithio am weddill ein hoes. Ni fydd bywyd byth yr un peth hebddi.
"Gofynnwn am breifatrwydd ar hyn o bryd wrth i ni alaru ar ein colled fel teulu."
Mae pump o bobl wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac ers hynny wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau barhau.
Mae ymholiadau'n parhau i ddod o hyd i un o ddau ddyn a adawodd leoliad y gwrthdrawiad.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Sian Beck: "Rydym yn cydymdeimlo’n llwyr â theulu Lydia, sy’n parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu dwyn o flaen eu gwell ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth nad yw eisoes wedi siarad â’r heddlu, i gysylltu â ni.
"Gallwch siarad â ni drwy ffonio 101, neu drwy ymweld â’n gwefan, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 25000244712."