
Cynnydd mewn gwariant amddiffyn i gael 'effaith sylweddol' ar safle yng Ngheredigion
Cynnydd mewn gwariant amddiffyn i gael 'effaith sylweddol' ar safle yng Ngheredigion
Mae Prif Weithredwr cwmni awyrofod o Bortiwgal sydd â safle yng Ngheredigion wedi dweud wrth rhaglen Newyddion S4C ei fod yn disgwyl i’r cynnydd mewn gwariant amddiffyn gael “effaith sylweddol” ar ei safle yng Nghymru.
Fe gadarnhaodd y Canghellor, Rachel Reeves yn natganiad y Gwanwyn, y byddai gwariant amddiffyn yn cynyddu i 2.5% CMC (GDP) erbyn 2027, a 3% erbyn 2029.
Yn ôl Ricardo Mendes o gwmni Tekever, mae’n bwriadu ehangu gwaith y cwmni ym Mharc Aberporth, ac fe fydd ‘na “nifer o gyhoeddiadau” yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Mae oddeutu 50 o bobl yn cael eu cyflogi ar y safle ger Maes Awyr Gorllewin Cymru, ac mae Tekever yn bwriadu cynyddu maint y gweithlu.
Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi bod yn darparu dronau i fyddin Wcráin eu defnyddio yn eu brwydr yn erbyn lluoedd Rwsia.
Mae’r safle yng Ngheredigion “yn rhan annatod” o gynlluniau Tekever, yn ôl Mr Mendes, nid yn unig o ran eu gwaith ym Mhrydain, ond fel rhan o’u gwaith yn rhyngwladol.
“Fe fydd y cynnydd mewn gwariant amddiffyn yn cael effaith bositif ar hynny,” meddai.
Ardal Bae Ceredigion
Mae Bae Ceredigion yn ardal ddynodedig i brofi taflegrau a dronau.
Roedd y Cynghorydd Clive Davies yn brentis ifanc yn Qinetic – cwmni sy’n rhan o’r gwaith profi hwnnw. Mae’n dweud fod 700 o bobl yn arfer gweithio ar y safle:
“Roedd ‘na brentisiaethe’, tua 70 o lefydd, a ‘rhei ‘na’n dod o golege’ ac ysgolion lleol," meddai.
"Gobeithio, gyda’r buddsoddiad ychwanegol ‘ma, byddwch chi’n cael y swyddi ‘na.
"A hefyd, mae cwmniau preifat yn dod i’r ardal, a byddan nhw hefyd yn gobeithio buddsoddi.”

‘Yn groes i bob egwyddor waraidd’
Mae gan Gymru draddodiad hir o heddychiaeth, ac mae nifer yn poeni am y cynlluniau i ehangu gwaith y lluoedd arfog yma.
Mae Cymdeithas y Cymod ymhlith y cyrff sydd wedi condemnio’r cynlluniau i wario mwy ar amddiffyn.
Yn ôl eu cadeirydd, Robat Idris, maen nhw’n “gwrthwynebu’r cynllun” ac yn credu mewn “trafod a chymodi, yn hytrach na pharatoi ar gyfer rhyfel”.
“Mae hwn nid yn unig ynglŷn â gwariant, ond ynglŷn â pharatoi meddylfryd pobl at fynd i ryfel, sy’n hollol groes i bob egwyddor waraidd," meddai.
Dyma'r cynnnydd mwyaf mewn gwariant amddiffyn ym Mhrydain ers y Rhyfel Oer.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gobeithio y bydd yn cadw'r heddwch ar adeg pan mae bryder gwirioneddol am wrthdaro unwaith eto ar dir mawr Ewrop.