Tanau gwair: 'Peidiwch cysylltu os nad yw’n argyfwng'
Tanau gwair: 'Peidiwch cysylltu os nad yw’n argyfwng'
Fflamau ffyrnig, y rhain yn llosgi neithiwr ger y mast darlledu yn Nebo, Gwynedd.
Un enghraifft o gyfres o danau gwair sydd wedi effeithio ar Gymru dros yr wythnosau diwethaf.
I unrhyw rai sy'n eu cynnau yn fwriadol, mae'r rhybudd yn blaen.
"Maen nhw'n beryglus i'n criwiau ni.
"'Dyn nhw'm yn fannau hawdd i fynd i ymladd y tanau ond hefyd mae 'na berygl i fywyd gwyllt a thrigolion lleol hefyd."
Dyma ymdrechion y gwasanaeth tan i reoli'r fflamau ddechre'r wythnos ar Fynydd y Garth ar gyrion Caerdydd.
Neithiwr, roedd rhaid ymateb i danau yn ardal Wattsville a Cross Keys a chadw golwg ar danau yn Abertileri a Hirwaun.
Draw yn y gorllewin a dyma beth sydd i'w weld ar ol tan sylweddol ar gyrion Llanllwni yn Sir Gaerfyrddin neithiwr.
Mae sawr y mwg yn amlwg iawn o hyd.
Dw i 'di siarad a nifer yn lleol sy'n dweud bod 'na danau gwair yn gymharol gyson yma ond bod fflamau neithiwr yn teimlo'n nes ac yn fwy brawychus.
"Dw i'n byw ar y mynydd.
"Oedd y fflamau'n mynd yn waeth am bod y gwynt yn cydio.
"Mae gyda ni ddefaid a ceffylau yn pori ar y mynydd felly hwnna yw bywoliaeth ni.
"Ni'n gofidio am yr anifeiliaid achos mae'r defaid yn wyna."
Mae rhai dw i 'di siarad a nhw heddi oedd ddim eisiau bod ar gamera yn awgrymu bod ffermwyr yn dal i losgi tir fel rhan o amaethu er bod y cyfnod llosgi ar ben ddiwedd Mawrth.
"Y neges yw mae'r tymor wedi gorffen ac mae'n anghyfreithlon nawr.
"Maen nhw'n torri'r gyfraith.
"Bydden i'n gofyn i'r cyhoedd os oes gyda chi unrhyw wybodaeth yn enwedig nawr mae'r tymor llosgi wedi gorffen i rannu'r gwybodaeth a'r Heddlu neu'r gwasanaeth tan."
Ers dydd Llun mae gwasanaeth tan ac achub y canolbarth a gorllewin Cymru wedi ymateb i dros 40 o ddigwyddiadau yn ymwneud a thanau gwair.
Yng nghanol y prysurdeb, y neges yw peidio ffonio 999 heblaw bod eu bywydau nhw neu eu heiddo mewn perygl uniongyrchol.
Y prynhawn 'ma yn ardal Brynberian, Sir Benfro, mwy o waith i'r swyddogion a disgwyl i'r tywydd sych bara gweddill yr wthnos.