Newyddion S4C

Heddlu'r Gogledd yn destun ymchwiliad wedi i ddynes farw ar ôl gwrthdrawiad

Ffordd Belgrave Wrecsam

Mae’r Swyddfa Annibynnol i Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i weithredoedd Heddlu Gogledd Cymru cyn gwrthdrawiad angheuol yn Wrecsam yr wythnos ddiwethaf.

Bu farw dynes 47 oed o Wrecsam yn yr ysbyty ddydd Mercher, 26 Mawrth, ar ôl bod mewn gwrthdrawiad gyda char oedd yn cael ei ddilyn gan gar heddlu.

Cafodd anafiadau difrifol yn y digwyddiad yn ardal Hightown o'r ddinas rhwng Ffordd Belgrave a Ffordd Percy ar ddydd Llun, 24 Mawrth.

Digwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 21.30 rhwng car Mercedes arian a Toyota.

Roedd y Mercedes yn cael ei ddilyn ar y pryd gan swyddogion o Heddlu'r Gogledd.

Fe gafodd dyn a’r ddynes 47 oed a oedd yn y Toyota eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Bu farw’r ddynes yn ddiweddarach.

Mae'r dyn yn parhau i dderbyn triniaeth am anafiadau sydd wedi eu disgrifio fel rhai fydd yn newid ei fywyd.

Ymchwiliad annibynnol

Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC: "Gallwn gadarnhau ein bod wedi penderfynu ymchwilio i gysylltiad Heddlu Gogledd Cymru cyn gwrthdrawiad ffordd yn Wrecsam ddydd Llun, 24 Mawrth. Yn anffodus bu farw aelod o’r cyhoedd yn dilyn hynny.

"Fe wnaeth y digwyddiad gymryd lle tua 21.30 yn ardal Hightown. Rydym ar ddeall bod car patrôl yr heddlu yng nghyffiniau car Mercedes arian oedd yn cael ei yrru gan aelod o’r cyhoedd, rhwng Ffordd Belgrave a Ffordd Percy. 

"Yn fuan wedyn fe wnaeth y Mercedes wrthdaro â'r Toyota."

Ychwanegodd: "Bydd ein hymchwiliad yn edrych ar weithredoedd yr heddlu cyn y gwrthdrawiad angheuol. 

"Cawsom atgyfeiriad gan Heddlu Gogledd Cymru ddydd Mawrth, 25 Mawrth, ac ar ôl asesiad o’r wybodaeth, rydym bellach yn ymchwilio’n annibynnol."

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.