'Carreg filltir arwyddocaol': Disgwyl i Gymru gynnal rhai o gemau Cwpan y Byd 2035
Mae'n debygol iawn y gallai Cymru gynnal rhai o gemau Cwpan y Byd Menywod 2035 wedi i FIFA gadarnhau mai cais ar y cyd rhwng cymdeithasau pêl-droed y DU ac Iwerddon oedd yr unig gais i gael ei gynnig ar gyfer eu cynnal.
Ar ddechrau mis Mawrth roedd y gwledydd wedi datgan eu diddordeb i gyflwyno cais i FIFA er mwyn cynnal y gystadleuaeth.
Fe ddaeth cadarnhad gan Lywydd FIFA, Gianni Infantino ddydd Llun mai dyma oedd yr unig gais i'r corff llywodraethu.
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney y byddai cynnal y gystadleuaeth yn "garreg filltir arwyddocaol arall" i bêl-droed yng Nghymru.
"Wrth adeiladu ar gynnal Euros cyntaf y dynion yng Nghymru yn 2028, bydd Cwpan y Byd Menywod yn garreg filltir arwyddocaol arall tuag at greu gwlad sydd o safon uwch o ran ei phêl-droed.
"Dyma ddau o digwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd ac mae'n gyflawniad arbennig y dylai CBDC a'r wlad fod yn falch ohono.
"Wrth i ni baratoi ar gyfer ein hymddangosiad cyntaf yn Euros y menywod yn yr haf a chynnal Cwpan y Byd yng Nghymru, rydym ar daith anhygoel ac mae rhaid i ni wneud y mwyaf ohono er mwyn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr."
Bydd angen i gais y DU ac Iwerddon gael ei gyflwyno yn ffurfiol erbyn y gaeaf hwn, gyda phleidlais yn cael ei chynnal i gadarnhau'r gwledydd fydd yn cynnal y gystadleuaeth yng nghyngres FIFA yn 2026.