Newyddion S4C

Dadl frys yn y Senedd i drafod y toriadau i fudd-daliadau

Dadl frys yn y Senedd i drafod y toriadau i fudd-daliadau

Bydd dadl frys yn cael ei chynnal yn y Senedd ddydd Mercher ar yr effaith bydd y toriadau i fudd-daliadau yn ei gael ar Gymru.

Daw'r ddadl wedi prynhawn anodd i'r Prif Weinidog, Eluned Morgan yn y siambr ddydd Mawrth.

Fe gafodd ei chwestiynu gan aelodau o'r gwrthbleidiau ynglŷn â'i safbwynt am y toriadau i'r budd-daliadau.

Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi cyhoeddi y bydd toriadau i'r gyllideb les. Mae'n golygu rheolau cymhwyso llymach ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Bersonol (PIP).

Dyma'r prif fudd-dal anabledd, sy'n cael ei hawlio gan fwy na 250,000 o bobl o oedran gweithio yng Nghymru.

Er na wnaeth hi gondemnio'r newidiadau, dywedodd Ms Morgan ei bod yn "poeni" am yr effaith ac y bydd pobl yn "dioddef".

Roedd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens wedi dweud bod Ms Morgan yn cefnogi'r toriadau.

"Roedd gen i rywun arall yn ceisio siarad ar fy rhan yr wythnos diwethaf," meddai'r Prif Weinidog yn ystod y sesiwn yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth.

"Rwy'n siarad drostaf fy hun," meddai.

Llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol, Sioned Williams sydd wedi galw am y ddadl.

Mae'n dweud bod elusennau ac ymgyrchwyr yn pryderu na fydd y newidiadau yn "gwneud dim i helpu pobl i fynd i waith" fel y mae Llywodraeth y DU wedi honni.

Roedd Ms Morgan wedi gofyn i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi effaith y newidiadau i'r budd-daliadau ar Gymru. 

Yn y pen draw cafodd hwn ei gyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ond heb asesiad effaith ynddo. 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.