Newyddion S4C

Tanau gwyllt yn llosgi ar draws Cymru

Tân glaswellt yn llosgi ym Mrynberian yng Nghrymych
Tan Brynberian

Mae gwasanaethau tân wedi cyhoeddi fod tanau gwyllt yn llosgi mewn sawl ardal yng Nghymru ddydd Mawrth.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin wedi nodi eu bod yn derbyn "nifer fawr o alwadau" yn ymwneud â thanau glaswellt.

Dywedodd fod pump o danau gwair yn llosgi ar draws yr ardal; ym Mrynberian yng Nghrymych; yn Hebron a Glandŵr ger Hendy-gwyn; yng Nghefn Rhigos ger Aberdâr a Llanllwni, Sir Gaerfyrddin.

Mae Gwasanaeth Tân De Cymru yn dweud eu bod yn brwydro â thanau yng Nghefn Golau, Tredegar, Pont-y-cymer, a'r Pandy.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y gwasanaeth nad “oes angen rhagor o alwadau” gan y cyhoedd yn ymwneud â’r tanau hynny.

Yn y gogledd, mae diffoddwyr yn “ymwybodol” o dân uwchben chwarel Llanfairfechan, Sir Conwy.

Dywedodd y gwasanaeth eu bod yn “monitro’r sefyllfa”, gan ofyn i'r cyhoedd i beidio ffonio mwyach i'w hysbysu am y tan hwnnw.

Daw wedi i wasanaethau tân Cymru, fel rhan o Fwrdd Tanau Gwyllt Cymru, ryddhau datganiad yn annog y cyhoedd "i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf."

Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd ddydd Mawrth, mai mis Mawrth oedd yr ail fwyaf heulog ar gofnod yng Nghymru, gyda 53% yn fwy o oriau o haul na'r cyfartaledd ar gyfer y mis.  

Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.