Newyddion S4C

Annog perchnogion i gadw cŵn ar dennyn er mwyn gwarchod adar sy'n nythu

Aderyn yn nythu ar y ddaear / mynd a ci am dro

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a RSPB Cymru yn annog perchnogion cŵn i gadw anifeiliaid anwes ar dennyn er mwyn diogelu adar. 

Daw'r alwad wrth i'r tymor nythu ddechrau. 

Mae nifer o adar yn dechrau nythu nawr ar y ddaear mewn glaswellt hir, ar waelod coed neu mewn llwyni isel.

Mae adar o’r fath yn agored i aflonyddwch gan gŵn heb oruchwyliaeth yr adeg hon o’r flwyddyn. Gall hyn achosi iddynt adael eu nythod oherwydd ofn - gan adael wyau a chywion heb eu diogelu ac mewn perygl o farw.

Gall y nythod hyn fod yn anodd iawn eu gweld ac mae’n hawdd iddynt gael eu sathru'n ddamweiniol neu eu niweidio gan gŵn.

Yn y degawdau diwethaf mae nifer yr adar sy’n nythu yng nghefn gwlad wedi gostwng.

Mae cwymp o tua 600 miliwn o adar magu yn y DU a’r UE ers 1980.

'Agored i niwed'

Mae Alison Roberts o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn erfyn ar berchnogion cŵn i fod yn ofalus iawn adeg yma o'r flwyddyn.

“Mae adar sy’n nythu ar y ddaear yn agored iawn i niwed yn ystod y cyfnod hwn, gyda rhai bellach mewn perygl oherwydd colli cynefinoedd, oherwydd ysglyfaethwyr ac oherwydd aflonyddwch dynol - gan gynnwys mynd â chŵn am dro," meddai.

"Rydym yn galw ar berchnogion cŵn i wneud eu rhan i helpu diogelu’r adar hyn, sy’n cael eu gwarchod yn gyfreithiol, trwy gadw eu cŵn o dan reolaeth dynn – yn ddelfrydol ar dennyn – yn ystod y tymor nythu adar.

“Cadwch eich ci yn y golwg bob amser a gadewch ef oddi ar ei dennyn dim ond os yw'r gyfraith yn caniatáu hynny ac os gallwch fod yn hyderus y bydd eich ci yn dychwelyd ar orchymyn."

Image
Cornchwiglen yn nythu ar y ddaear
Cornchwiglen yn nythu ar y ddaear. (Llun: Andy Hay/RSPB)

Mae CNC ac RSPB Cymru yn rhybuddio y gall hyd yn oed cŵn sy’n ymddwyn yn dda achosi trallod neu ddifrod i fywyd gwyllt yn anfwriadol.

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae'n drosedd lladd, anafu neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol. Mae hefyd yn drosedd cymryd neu ddinistrio unrhyw un o’u nythod wrth iddynt eu defnyddio neu wrth iddynt eu hadeiladu.

Pryderu mae Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru y gallai rhywogaethau adar dioddef os nad yw pobl yn ymwybodol eu bod yn nythu ar y ddaear. 

“Mae’r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn angerddol am natur ac eisiau osgoi ei niweidio. Ond gall hyd yn oed cŵn sy’n ymddwyn yn dda achosi trallod i fywyd gwyllt yn anfwriadol a gallant gael effaith sylweddol ar lwyddiant nythu rhai o’n rhywogaethau mwyaf eiconig.  

“Mae rhai o adar magu Cymru sydd yn y perygl mwyaf yn nythu ar y ddaear, sy’n golygu eu bod yn agored iawn i aflonyddwch. Dyna pam rydyn ni’n gofyn i bawb fod yn ymwybodol pan maen nhw allan, a chadw cŵn ar dennyn yn ystod tymor y gwanwyn a'r haf hwn.”

Prif lun: RSPB

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.