Newyddion S4C

'Anhygoel': Y ddynes gyntaf i deithio hyd Ynys Baffin ar ei phen ei hun

Camilla Hempleman-Adams a'i thad Syr David
Camilla Hempleman-Adams a'i thad Syr David

Dynes o Brydain yw'r ddynes gyntaf erioed i deithio hyd Ynys Baffin yng Nghanada ar ei phen ei hun.

Fe wnaeth Camilla Hempleman-Adams frwydro yn erbyn tymheredd mor isel â -40C  a gwyntoedd o hyd at 47mya yn ystod ei thaith.

Yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnaeth hi groesi'r ynys sydd yn 150 milltir o hyd ar droed a thrwy sgïo - gan gwblhau'r daith mewn 13 diwrnod.

Dywedodd bod y profiad wedi bod yn "anhygoel"

"Dydw i ddim yn siŵr sut dwi'n teimlo ar hyn o bryd," meddai.

"Dwi'n eithaf blinedig, mae fy nhraed yn brifo, ond mae'n braf bod yn ôl gyda phobl, dechrau mynd 'nôl i'r arfer.

"Mae wedi bod yn bythefnos mor anodd, ond pythefnos anhygoel hefyd."

Image
Camilla Hempleman-Adams ar y daith
Camilla Hempleman-Adams a'i thad Syr David. Llun: PA

Roedd tad Camilla, yr anturiaethwr Syr David Hempleman-Adams, wedi hedfan i Ganada i gwrdd â'i ferch wrth iddi gwblhau'r her.

"Mae'r hyn mae hi wedi cyflawni yn wych," meddai.

"Dwi wedi gwneud y daith hon o'r blaen - ac roedd y tywydd yn eithafol y tro hwn.

"Roeddwn i'n poeni amdani. Roedd hi wrth ymyl dibyn ac roedd gwyntoedd o 34mya ac mae hynny'n beryglus gyda thymheredd fel hyn.

"Dwi mor falch ohoni. Mae'n hysbyseb gwych i fenywod. Mae dynion yn fawr ac yn gryf, ond mae hi'n hanner fy mhwysau ac fe wnaeth hi gwblhau'r daith mewn hanner yr amser."
 

Fe gychwynnodd Ms Hempleman-Adams y daith yn Qikiqtarjuaq a'r lleoliad olaf oedd Pangnirtung.

Ar y diwrnod olaf ond un, ysgrifennodd Camilla: “Ar wahân i flinder, mae meddwl fy mod yn agosáu at ddiwedd y daith hon yn drist.

“Mae’r llinell derfyn yn galw, ac rydw i wedi bod yn meddwl am gawod boeth yn reit aml.”

Yn y gorffennol mae Ms Hempleman-Adams, cynhyrchydd sy'n byw yn Llundain, wedi sgïo i Begwn y Gogledd. Hi oedd y fenyw ieuengaf i wneud hyn yn 15 oed.

Ei gobaith trwy wneud yr her fwyaf diweddar yw ysbrydoli merched i dorri ffiniau â thynnu sylw at effaith newid hinsawdd ar y rhanbarth a chymunedau Inuit.

Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.